Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn croesawu cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer y sector twristiaeth lleol

  • Tweet
Wednesday, 8 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu'r cyhoeddiad bod Llandudno wedi sicrhau £825,000 drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU i hybu busnes ac annog arloesi yn yr economi ymwelwyr.

Dywedir bod y prosiect Busnes@LlandrilloMenai yn cynnwys ymrwymiad cyllid o oddeutu £400,000 ar gyfer cymhorthdal cyflogau dros y gaeaf er mwyn i westai a busnesau twristiaeth eraill allu cadw staff y tu allan i’r tymor.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Janet:

“Rwyf wrth fy modd yn croesawu’r newyddion gwych hwn am gyllid, sydd unwaith eto yn pwysleisio cefnogaeth Llywodraeth y DU i uchelgeisiau ein sectorau twristiaeth a lletygarwch.

“Mae’r rhethreg y mae ein busnesau twristiaeth a lletygarwch yn gorfod ymdopi â hi gan rai, er gwaethaf yr heriau sy’n eu hwynebu, wedi arwain at rai yn troi eu cefn ar yrfa o’r fath yn lleol. Mae hyn yn siomedig dros ben, yn enwedig o ystyried eu bod yn y lleoliad perffaith i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol.

“Felly, rwy’n falch tu hwnt o glywed y bydd y prosiect yn ceisio adeiladu rhwydwaith lleol o ddoniau i fynd i’r afael â’r her recriwtio ac y bydd cymhorthdal yn cael ei gynnig i gadw’r doniau y tu allan i’r tymor.   

“Gyda mwy o ymwelwyr eisiau teithio i un o gyrchfannau hyfrytaf Cymru yn dilyn sylw ysblennydd ar gyfresi fel The Pier gan ITV, mae’n amlwg bod hwn yn gyfnod cyffrous o ddatblygiad ar gyfer ein busnesau lleol sy’n gweithio mor galed.”

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

Bydd y prosiect yn ceisio darparu:

  • Hyb Arloesi: gofod cydweithio canol tref i arloesi.
  • Rhaglen arloesi:  Gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â themâu newydd o fewn y sector, gan gynnwys Adfywio Trefi drwy Dwristiaeth, Twristiaeth Sero-Net, Meithrin Doniau ar gyfer y Dyfodol ac Ymestyn y Tymor.  
  • Safleoedd ‘gwib’: Mewn partneriaeth â Mostyn Estates, bydd cymhorthdal ar gyfer safleoedd busnes newydd ar gael, gan gynnwys unedau siop i brofi cynhyrchion newydd ar y farchnad a lle i egin-fusnesau.
  • Meithrin Rhwydwaith Doniau: Gweithgareddau i ymgysylltu â darparwyr twristiaeth allweddol a’r sector twristiaeth ehangach. Gan weithio mewn dull partneriaeth, fformiwleiddio hyfforddiant wedi’i dargedu a datblygu sgiliau i fynd i’r afael â’r her recriwtio a gwneud y diwydiant yn fwy atyniadol.

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree