Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn beirniadu’r galw am godi’r dreth gyngor ar garafanau sefydlog

  • Tweet
Wednesday, 8 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi beirniadu’r cynnydd mewn ‘rhethreg gwrthdwristiaeth’, yn sgil yr awgrym y dylai pobl sy’n berchen ar garafanau a chalets ym mharciau gwyliau Cymru orfod talu’r dreth gyngor. Gwnaed yr awgrym yn ystod dadl ynghylch a ddylai Gwynedd osod y dreth gyngor bremiwm, gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes.

Yn siarad yn erbyn y cynnig, dywedodd Janet:

“Fel arfer, mae perchnogion y carafanau yn talu ffi flynyddol o filoedd o bunnoedd i’n parciau gwyliau lleol, ac mae’n cynnwys cyfraniad at y bil ardrethi busnes cyffredinol. Maen nhw’n asedau hanfodol sy’n sicrhau bod drysau ein parciau yn aros ar agor ac yn buddsoddi yn ein rhanbarth.

“Y tu hwnt i wario eu harian mewn sefydliadau lletygarwch a manwerthu lleol, mae’r unigolion hyn hefyd yn gyswllt cymorth hanfodol ar gyfer ein sector gwasanaethau, gan dalu cyflogwyr lleol am bopeth o archwiliadau trydan i gyflenwi nwy.

“Byddaf yn parhau i fynd i’r afael â’r rhethreg gwrthdwristiaeth gamarweiniol a chynyddol sy’n cael ei bwydo gan bartneriaid y glymblaid yn y Bae. Dim ond cwta fis yn ôl ac roedden ni’n dathlu gwaith caled a manteision busnesau o’r fath yng Ngwobrau Go North Wales. Ni allwn adael i hyn gael ei danseilio gan ymyriadau difeddwl yn y farchnad.”

Mae Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Meysydd Carafanau) 1990 yn nodi bod parciau gwyliau sy’n cael eu hystyried o fewn y diffiniad o “faes carafanau”, sy’n golygu eu bod yn cynnwys rhai eiddo annomestig ac sydd ag ardal o 400 llathen sgwâr neu fwy, yn cael eu hystyried fel rheol i fod yn uned drethadwy ar y rhestr ardrethi annomestig.

DIWEDD

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree