Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llythyrau brys yn holi am waith a chyllid i fynd i’r afael â difrod storm yn Llanfairfechan

  • Tweet
Monday, 6 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn adroddiadau am ddifrod ychwanegol i lwybr arfordirol a morglawdd Llanfairfechan dros y penwythnos, mae Janet Finch-Saunders AS wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a Julie James AS, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru i adolygu pa asesiad a wnaed o’r difrod a pha gymorth ariannol a fydd ar gael.

Adeg storm y penwythnos, roedd gwaith eisoes wedi dechrau i drwsio’r difrod a achoswyd i’r llwybr cyhoeddus a’r morglawdd  gan storm flaenorol ar 5 Hydref 2021, a adawodd sawl eiddo ar hyd Heol Pen Morfa yn fwy agored i lifogydd. 

Wrth sôn am ei llythyr, dywedodd Janet: 

“Er yr hoffwn ganmol Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am eu camau cyflym i gymeradwyo gwaith atgyweirio brys i’r morglawdd o dan Ddeddf Adeiladu 1984, mae pryderon sydd wedi cyrraedd fy swyddfa yn dangos bod y storm ddiweddaraf wedi sgubo rhai o’r rheiliau, darnau pellach o’r llwybr a rhannau o’r gwaith a gwblhawyd ar ôl Storm Arwen allan i’r môr.

“Yn dilyn fy nghais am ddatganiad i’r Trefnydd, rwyf hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gofyn am gydweithio â’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i weld a oes modd clustnodi cyllideb wrth gefn hirdymor er mwyn helpu awdurdodau lleol pan fydd difrod annisgwyl a hirdymor yn digwydd. Hefyd, rwyf wedi gofyn iddi adolygu’r sefyllfa benodol yn Llanfairfechan.

“Trwy ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor am eglurder ynghylch asesiad o’r difrod yn sgil y storm ddiweddaraf, ac o gofio bod mwy o dywydd garw i’w ddisgwyl bellach ac effaith hyn ar y seilwaith lleol, rwyf hefyd wedi pwysleisio y byddaf yn holi’r Prif Weinidog eto am gyllid wrth gefn ar gyfer llifogydd yn ystod sesiwn o Gyfarfod Llawn y Senedd yr wythnos hon. Mae’n hanfodol ein bod yn rhagweithiol yn y maes hwn.”

Mae’r llythyr at y Cynghorydd McCoubrey hefyd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cais i wella system amddiffyn arfordirol Llandudno sy’n cael ei gyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Daeth cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021 i’r casgliad mai Opsiwn 2 sydd orau ar gyfer y gwaith gwella. Byddai’r cynnig hwn yn golygu bod tywod y gellid ei reoli gan grwynau pren yn cymryd lle’r morglawdd coblog rhwng Cornel y Plant a Stryd Vaughan.

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Gweler copïau o’r ddau lythyr atodedig.

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree