Wrth gyfrannu at Ddadl Aelodau ar ddiagnosis a thriniaeth canser, mae Janet Finch-Saunders AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a diagnostig drwy gyflwyno mecanweithiau ar gyfer olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, cyfarpar a seilwaith.
Hefyd, eglurodd Mrs Finch-Saunders ei bod hi’n ymddangos bod datganoli’n “oedi triniaeth canser yn annerbyniol” oherwydd diffyg arbenigedd yn y rhanbarth. Mae amseroedd aros canser y GIG ar gyfer mis Medi 2021 yn dangos bod 59% o gleifion wedi cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i amau achos o ganser. Mae hyn yn llawer is na tharged y Llwybr Canser o 75%.
Wrth dynnu sylw at ei galwadau am weithredu, dywedodd Janet:
“Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd gan Gymru fylchau sylweddol yn y gweithlu sy’n diagnosio ac yn trin canser, megis delweddu, endosgopi, oncoleg anllawfeddygol a nyrsys arbenigol. Mae’r bylchau staffio hyn yn arwain at bobl yn gofyn i’m swyddfa am gymorth.
“Ochr yn ochr â phrinder staff, yma yn y Gogledd, mae’r Bwrdd Iechyd yn gorfod cyfeirio cleifion i Loegr am driniaeth. Rwy’n gwybod o brofiad personol yn helpu etholwr nad yw’r broses yn un llyfn, gydag oedi’n digwydd oherwydd mai dim ond unwaith yr wythnos y cynhelir cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol rhwng Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a’r ysbyty perthnasol yn Lloegr.
“Rydym yn gwybod bod tarfu ar wasanaethau hefyd yn peryglu diagnosis yn y cam diweddarach, sy’n golygu ei bod hi’n anoddach trin y clefyd ac yn gwaethygu’r cyfleoedd goroesi. Fel yr eglurodd Cancer Research UK, Cymru fydd yr unig wlad yn y DU heb strategaeth ganser cyn hir - rhywbeth mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei argymell ar gyfer pob gwlad.
“Mae’n hanfodol bod cyllideb aml-flwyddyn Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio fel cyfle i fuddsoddi yn y gweithlu canser yng Nghymru ar gyfer yr hirdymor, ac mae angen cydweithrediad trawsffiniol gwell a ledled y GIG yn y DU fel nad yw trigolion y Gogledd dan anfantais.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS