Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Torcalon wrth i Storm Arwen ddryllio dros 50 o goed yng Ngardd Bodnant

  • Tweet
Wednesday, 1 December, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth barhau â’i gwaith i nodi Wythnos Coed 2021, mae’r Aelod o’r Senedd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd - Janet Finch-Saunders AS - wedi sôn am ei gofid gyda’r newydd bod hanner cant o goed wedi syrthio yng ngerddi byd-enwog Bodnant yn Nyffryn Conwy yn ystod Storm Arwen, gyda staff yn dal i asesu maint y difrod.

Mae Bodnant yn gartref i bum Casgliad Cenedlaethol a llu o goed o fri, ac yn denu dros 250,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae Tîm Croeso penodedig yn gofalu amdanynt a 25 o arddwyr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr ardd yn cael ei chynnal i’r safonau uchaf posibl.  

Ymhlith anffodusion y storm yr oedd coeden 140 oed cochwydden arfor, a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth ‘Coeden y Flwyddyn’ Coed Cadw yn 2017. Mae bryngaer goediog y Ffwrnais, a agorodd yn 2017, yn debygol o barhau ar gau am sawl mis wrth i’r gwaith clirio barhau.

Dywedodd Janet: 

“Roedd Storm Arwen yn ein hatgoffa’n ddidostur o rym natur, ac mae’r holl achosion o wyntoedd cryfion, cyflym iawn yn debygol o gynyddu yn sgil newid hinsawdd. Mae’r adroddiadau am faint y difrod a achoswyd i Ardd Bodnant yn dorcalonnus.

“Wrth gydnabod y difrod ecolegol a grëwyd gan Storm Arwen, gyda llawer o goed hŷn ac arbennig wedi disgyn ar hyd a lled yr etholaeth, ddoe galwais ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud datganiad ar y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gennym gymunedau sy’n gallu gwrthsefyll stormydd yn well.

“Mae’n hanfodol bod Wythnos Genedlaethol Coed yn cael ei defnyddio fel cyfle i’n sefydliadau drafod sut y gallwn ddiogelu ein cynefinoedd bioamrywiol rhag rhai o’r patrymau tywydd mwy eithafol a brofwyd, yn enwedig o ystyried manteision y coed hyn o ran rheoli llifogydd a gwres.”

Yn gynharach eleni, mewn ymweliad â’r gerddi, fe wnaeth Janet ganmol gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol  yng Nghymru a’u hymdrechion ar y cyd yn lleol i adfer cynefinoedd bioamrywiol a chynyddu’r gorchudd coed. Mae gan yr Ymddiriedolaeth uchelgeisiau i fod yn garbon sero-net yng Nghymru erbyn 2030 gyda’r nod o adfer 4,600 hectar o gynefinoedd â blaenoriaeth erbyn 2025.

DIWEDD 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn ymweld â Gardd Bodnant ym mis Medi 2021

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree