Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Noson lwyddiannus i fusnesau twristiaeth a lletygarwch Aberconwy

  • Tweet
Friday, 26 November, 2021
  • Local News
Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru. 

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi canmol trefnwyr Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2021, yn dilyn noson hynod lwyddiannus i fusnesau lleol. Eleni, roedd y sefydliad yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu, ac roedd wedi derbyn dros 200 o geisiadau ar gyfer ei seremoni wobrwyo flynyddol. Cyflwynwyd y seremoni gan Siân Lloyd, ac fe'i cynhaliwyd yn Venue Cymru.

Ymhlith llwyddiannau'r noson oedd Mr Glenn Evans, Rheolwr Cyffredinol Gwesty'r Royal Oak ym Metws-y-Coed, a enillodd y wobr Arwr Twristiaeth a Lletygarwch. Enillodd Hosbis Dewi Sant o Landudno'r Wobr Gwydnwch ac Arloesi, ac enillodd Venue Cymru'r Wobr Digwyddiadau Busnes a Theithiau Cymhelliad.  

Enillwyd gwobrau gan fusnesau sydd wedi’u lleoli mewn rhannau eraill o'r etholaeth hefyd, gan gynnwys Lyons Park sy'n cynnal Parc Carafanau a Chlwb Gwledig Neuadd Pendyffryn yn Nwygyfylchi, a gipiodd y Wobr Llety Hunanddarpar. Ar ôl agor yn Llandudno yn gynharach eleni ar ôl trawsnewid Hen Ysgol y Bwrdd sy’n adeilad rhestredig Gradd II, enillodd Distyllfa Penderyn wobr Atyniad y Flwyddyn. Dyfarnwyd Gwobr 30 Mlynedd yn y Diwydiant Twristiaeth i Dr. Shyam Patiar, a fu'n Gyfarwyddwr Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo am flynyddoedd lawer, fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad pwysig at hyfforddi pobl ifanc yn y diwydiant.

Wrth siarad am lwyddiant yr etholaeth yn y digwyddiad, dywedodd Janet: 

“Hoffwn ganmol Jim Jones a'i dîm yn Go North Wales am noson arbennig i ddathlu llwyddiant – ar gyfer sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth, ond hefyd wrth nodi 30 mlynedd ers sefydlu'r cwmni pwysig hwn sy'n gweithio'n ddiflino i hyrwyddo ein rhanbarth i weddill y byd. 

“Diben y gwobrau gwych hyn yw dathlu rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth ein rhanbarth, a rhoi cyfle i ni arddangos cyflawniadau, gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant. Yn dilyn amser hynod heriol i'r diwydiannau hanfodol hyn, roedd yn bleser mawr cydnabod cadernid y busnesau. 

“Llongyfarchiadau i holl enillwyr y noson ac i'r busnesau a lwyddodd i gyrraedd y rhestr fer. Mae cryfder ac amrywiaeth y busnesau a gafodd sylw ar y noson, a'u gwaith arloesol a hynod ddyfeisgar, yn dangos pam mai ni yw coron arlwy twristiaeth Cymru.  

“Mae gan yr ardal hon enw da eisoes am atyniadau trawiadol a chyfleusterau antur hynod gyffrous, ac rwy'n gobeithio y bydd y gwobrau hyn yn annog mwy o ymwelwyr i ddod i'n cymunedau a gwario arian yma. Rwy'n hynod falch bod etholaeth Aberconwy, a Gogledd Cymru, yn gartref i mi.” 

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru. 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree