Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn cefnogi ymgyrch o blaid isafswm lefelau nyrsio

  • Tweet
Friday, 26 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cyfarfod â swyddogion o'r Coleg Nyrsio Brenhinol i danlinellu ei chefnogaeth i'w ymgyrch i ehangu lefelau gofal nyrsio diogel ac effeithiol i gynnwys wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl a nyrsio cymunedol. 

Mae Cymru wedi deddfu ar gyfer y ddyletswydd i gael isafswm lefel staffio diogel ym maes nyrsio ar gyfer wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol mewn ysbytai. Nawr, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gwneud cais Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gwmpasu mwy o feysydd gofal iechyd, gan ryddhau adroddiad sydd hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar swyddi gwag nyrsys cofrestredig er mwyn gwella'r gwaith o gynllunio'r gweithlu a datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys yn y GIG. 

Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, oherwydd prinder staff yng Nghymru, mae angen i nyrsys weithio 34,284 awr o oramser bob wythnos i ofalu am gleifion. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod nyrsys sy'n gweithio mewn ardaloedd â lefelau staffio gwael 71% yn fwy tebygol o ddioddef blinder llethol a bod yn anfodlon â'u swydd na nyrsys ar wardiau â lefelau staffio mwy ffafriol. 

Wrth siarad am ei chefnogaeth i'r ymgyrch, dywedodd Janet: 

“Nid yw lefelau staffio GIG Cymru yn ddigonol, ac maen nhw'n arwain at beryglon difrifol i ddiogelwch cleifion ac yn niweidio morâl staff. Ar ôl rhyddhau adroddiad gyda nifer o argymhellion adeiladol, roedd yn dda gennyf fynychu digwyddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol i gefnogi ei ymgyrch. 

“Yn ogystal â siarad â swyddogion am y sefyllfa bryderus o ran staffio yn Aberconwy, ac yn ehangach ledled y Gogledd, roedd y digwyddiad yn gyfle i mi fynegi fy niolch mawr a diffuant i staff y GIG sy'n parhau i wneud gwaith cwbl allweddol yn yr ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael â’r coronafeirws. Rhaid i ni ddiolch o waelod calon iddynt am eu holl waith.

“Rydym yn gwybod bod tua 3,000 o swyddi gwag ledled y GIG yn ei gyfanrwydd. Ochr yn ochr â thoriadau bob blwyddyn yn nifer y gwelyau mewn ysbytai, mae'r ystadegau difrifol hyn yn tanlinellu'r angen dybryd i ehangu deddfwriaeth ar isafswm lefelau staffio i gynnwys wardiau iechyd meddwl, a'r angen i adolygu sut y gallwn wella’r gwaith o gadw staff nyrsio. 

“Yn dilyn y digwyddiad yr wythnos hon yn y Senedd, edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu â'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Gall trigolion lleol ymuno â mi i gefnogi nodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol trwy lofnodi'r ddeiseb a'i rhannu gyda'r hashnod #ForTheFullTeam.” 

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn amcangyfrif bod nifer y swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yn GIG Cymru wedi codi i 1,719 yn 2021 o 1,612 yn 2020. Mae'r sefydliad yn dweud ei bod hi'n anodd nodi’r gyfradd o swyddi gwag ar gyfer nyrsys yng Nghymru oherwydd anghysondebau yn y data. Er enghraifft, mae data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyfeirio at swyddi gwag nyrsio a bydwreigiaeth yn unig yn Agenda ar gyfer Newid Band 5. 

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS yn ystod digwyddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol. 

You may also be interested in

J

£1bn NHS Repairs Backlog Sparks Concerns Over North Wales Hospitals / Ôl-groniad atgyweiriadau'r GIG gwerth £1bn yn sbarduno pryderon am ysbytai’r Gogledd

Tuesday, 7 April, 2026
Janet Finch-Saunders MS has raised serious concerns about the condition of NHS buildings across North Wales, following figures released from NHS Wales Shared Services Partnership. The ‘high’ risk backlog has risen 71% in four years, according to NHS Wales Shared Services Partnership.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree