Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Sicrhau ymrwymiad i adolygu’r ddarpariaeth trenau min nos rhwng Dyffryn Conwy a’r arfordir

  • Tweet
Tuesday, 23 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn cwestiwn treiddgar i’r Prif Weinidog, mae’r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi croesawu’r newyddion bod ei chynigion adeiladol i amserlennu gwasanaethau min nos rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog, ac i gyflwyno gwasanaeth trên uniongyrchol rhwng Maes Awyr Manceinion a Blaenau Ffestiniog, nawr yn cael ei godi gan Weinidog Gogledd Cymru drwy ei gwaith gyda Trafnidiaeth Cymru.

Daeth ei hymyriad wrth i etholwyr wynebu’r cyfyng-gyngor o dalu ffioedd tacsi costus o gofio bod y trên olaf yn gadael am 16:07 pm a’r bws olaf am 18:34 pm. Wrth awgrymu gwasanaethau trên hwyr fel ateb, mynegodd Mrs Finch-Saunders bryderon hefyd y bydd twristiaid yn gyrru eu hunain i Barc Cenedlaethol Eryri. 

Wrth gyfeirio at ei chwestiwn i’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:

“Mewn argyfwng hinsawdd, rwy’n glir bod angen i ni rymuso trigolion i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Er ein bod wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran cyrraedd cymunedau gwledig drwy wasanaeth bws Fflecsi Dyffryn Conwy, y gwir amdani yw bod y cysylltiad rhwng cymunedau yn Nyffryn Conwy a’r arfordir yn dod i ben gyda’r nos. 

“Wrth dynnu sylw’r Prif Weinidog at y gwahaniaeth annerbyniol hwn heddiw, a chynnig ateb tymor byr synhwyrol drwy’r rhwydwaith rheilffyrdd, roeddwn yn falch iawn o gael cadarnhad y bydd Gweinidog Gogledd Cymru nawr yn cydweithio â Trafnidiaeth Cymru i adolygu’r posibilrwydd o wasanaethau gyda’r nos rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog. 

“Rwy’n gobeithio nawr y bydd y cam cadarnhaol hwn ymlaen yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gyflwyno’r diwygiadau angenrheidiol i Raglen Metro Gogledd Cymru yn y dyfodol er mwyn cynnwys gwasanaeth trên uniongyrchol rhwng Blaenau Ffestiniog a Manceinion a fyddai’n cefnogi cynnydd pellach yn nifer yr ymweliadau â’r ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus.” 

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree