Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cynllun gweithredu cydweithredol newydd yn helpu i atal y Gylfinir rhag diflannu

  • Tweet
Monday, 22 November, 2021
  • Local News

Mae Janet-Finch Saunders, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd ac Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi siarad er mwyn cefnogi rhaglen newydd a chydweithredol 10 mlynedd i adfer rhywogaethau ar gyfer y Gylfinir yng Nghymru. Lansiwyd y cynllun gweithredu yn ystod seremoni rithwir y prynhawn hwn (22 Tachwedd 2021). 

Mae'r Gylfinir wedi'i restru fel Un sydd Dan Beth Bygythiad yn fyd-eang ar Restr Goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o Rywogaethau sydd dan Fygythiad ac mae'n Aderyn o Bryder Cadwraethol ac ar y Rhestr Goch yng Nghymru. Yn yr un modd, roedd adroddiad 'Cyflwr Adar yng Nghymru 2018' yn pwysleisio eu dirywiad cronig diweddar (ar gyfradd o tua 6% y flwyddyn) gan nodi nad oes unrhyw awgrym bod y duedd hon yn lefelu. 

Wrth siarad ar ôl ei hanerchiad i'r mynychwyr, dywedodd Janet: 

“Gyda phrosiect ardderchog LIFE y Gylfinir yn gwneud gwaith yn fy etholaeth i, ac edrychaf ymlaen gyda llaw at ymweld unwaith y bydd y boblogaeth leol wedi dychwelyd o fudo arfordirol yn y Gwanwyn, rydw i'n ymwybodol iawn bod y rhywogaeth wedi gweld dirywiad sylweddol ac yn diflannu o'n hardaloedd ucheldirol.  

“Gan fod yr aderyn hwn yn wynebu difodiant posibl fel rhywogaeth fridio hyfyw yng Nghymru erbyn 2033, mae'r lansiad swyddogol heddiw o gynllun gweithredu adfer y Gylfinir yn gam cyntaf pwysig sy'n tanlinellu'r ffaith, os byddwn yn gweithredu gyda'n gilydd nawr, y gallwn ni atal yr adar hardd hyn rhag diflannu. 

“Ar ôl siarad yn rheolaidd yn y Senedd am yr angen i fynd ati'n llawer gwell i gynnwys ein ffermwyr a'n ceidwaid tir, rydw i'n falch o weld hefyd y bydd y cynllun hwn yn ceisio sefydlu neu gryfhau rhwydwaith o arweinwyr cymunedol gwledig ym mhob un o Ardaloedd Pwysig y Gylfinir er mwyn hwyluso'r gwaith o gydweithredu a chynnwys pobl . 

“Hoffwn ddiolch am ennyd i'r rhanddeiliaid a oedd yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, gan gynnwys grŵp gweithredu Gylfinir Cymru, a thalu teyrnged i Mr Mark Isherwood AS, fy nghyd-Aelod, am ei ymyriadau ysbrydoledig fel hyrwyddwr rhywogaethau'r Gylfinir yn y Senedd.” 

DIWEDD 

Ffotograff: Bob Brewer/UnSplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree