Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Aelod o'r Senedd dros Aberconwy yn agor arddangosfa sy'n datgelu hanes cudd "amserol" o Landudno

  • Tweet
Tuesday, 16 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS

Ar ôl agor arddangosfa newydd A Jewish History of Llandudno yn swyddogol yn Amgueddfa Llandudno, bu Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, yn sôn am ei llawenydd yn sgil y gwaith oedd ar y gweill i i ddadorchuddio un o hanesion cudd y dref. 

Ymhell yn ôl yn Oes Fictoria, yn sgil y cyfleoedd masnachol yr oedd Llandudno yn eu cynnig wrth ddod yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer gwyliau, denodd hyn lawer o fasnachwyr Iddewig a datblygodd y dref yn gyrchfan gwyliau poblogaidd hefyd i'r gymuned Iddewig. 

Wrth siarad ar ôl agor yr arddangosfa, dywedodd Janet: 

“Roedd yn anrhydedd cael gwahoddiad i agor yr arddangosfa amserol hon yn swyddogol, sy’n llwyddo mor hyfryd i roi ffocws ar rôl bwysig y gymuned Iddewig yn hyrwyddo Llandudno fel Brenhines cyrchfannau gwyliau Cymru.  

“Mae'r arddangosfa hon yn dangos yn gwbl briodol bod y Gogledd yn gyfoeth o wahanol unigolion a chymunedau sydd wedi dewis ymgartrefu yn yr ardal; rhai yn ffoi rhag erledigaeth, eraill yn chwilio am well cyfleoedd economaidd neu am gael y profiad o fyw yn rhywle newydd. 

“Fy ngobaith i yw y bydd yr arddangosfa hon sydd wedi ei lleoli yn yr amgueddfa aml-gyfnod hon, yn sbarduno pobl i fynd ati i archwilio'r hanes hwn o gymeriadau a straeon amrywiol. Rwy’n annog trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i fynd i weld yr arddangosfa a dilyn y daith gerdded drwy ein tref arbennig iawn i gael blas o'r hanes. 

“Hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion Dawn a'i thîm. Yn sgil eu cyfraniad at yr ymchwil, maent yn parhau i sicrhau bod Amgueddfa Llandudno wrth wraidd ein cymuned. Roedd yn hyfryd gweld eu gardd fioamrywiaeth wych hefyd!

“Hoffwn longyfarch Prosiect Cerdded a Darganfod Menter Fachwen, Prifysgol Bangor a Chronfa Bangor hefyd am eu gwaith ar yr arddangosfa a'r daith gerdded ehangach, gan gynnwys ymdrechion unigol yr Athro Nathan Abrams a Gareth Roberts.” 

Dros y blynyddoedd, mae'r gymuned Iddewig wedi bod yn rhan enfawr o ddatblygiad yr ardal, o’r economi, y diwylliant, y bywyd gwleidyddol ac o’r llwyddiannau yn y byd chwaraeon. Mae'r arddangosfa newydd hon, a gynhyrchwyd gan 'Prosiect Cerdded a Darganfod Menter Fachwen' ac a gafodd ei hariannu a'i chynhyrchu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Chronfa Bangor, yn ddathliad o'r dreftadaeth honno. 

Mae cyfres o luniau gan Jim Tan, ffotograffydd o Ogledd Cymru, yn cael eu harddangos ac maen nhw'n dangos cysylltiad cymunedau Haredi â Llandudno. Mae Sefydliad Harold Hyam Wingate hefyd wedi cyfrannu at ddehongliad ychwanegol ac archwiliad parhaus o gymuned Iddewig Llandudno. 

Wrth sôn am yr arddangosfa, dywedodd yr Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor:  

“Rwy’n falch iawn bod Amgueddfa Llandudno yn cynnal ein harddangosfa sy'n rhan o ymdrech ehangach i gasglu, cadw a hyrwyddo hanes Iddewig lliwgar y gogledd. Cewch glywed rhagor am hyn maes o law.” 

Dywedodd Dawn Lancaster, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa: 

“Rwy’n ddiolchgar i Gareth Roberts o Fenter Fachwen am ei waith anhygoel yn crynhoi’r holl wybodaeth i greu taith gerdded sy'n cyfateb mor hyfryd â’r byrddau arddangos, a'r Athro Abrams sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddatgelu hanes a phrofiadau Iddewon yn Ngogledd Cymru.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Natganiad i'r Wasg yr Amgueddfa, sydd wedi'i atodi. 

 Ffotograff: Janet yn yr arddangosfa gyda'r Cynghorydd Philip Evans (un o ymddiriedolwyr yr Amgueddfa) a Dawn Lancaster (Cyfarwyddwr yr Amgueddfa).

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree