Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn canmol budd lleol hyb cymunedol Llandudno

  • Tweet
Thursday, 18 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi canmol budd lleol hyb cymunedol newydd sbon yng ngorsaf drenau Llandudno a gynhelir gan Creating Enterprise (rhan o Cartrefi Conwy).

Daw’r sylwadau ar ôl i Mrs Finch-Saunders fynychu’r agoriad swyddogol, ochr yn ochr ag Andrew Bowden, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy a Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru. Agorodd y cyfleuster ei ddrysau ar 6 Medi 2021.

Mae’r hyb yn ‘siop-un-stop’ lle gall tenantiaid Cartrefi Conwy a’r gymuned ehangach gael mynediad at gyngor arbenigol, hyfforddiant a chymorth. Mae Creating Enterprise hefyd yn dal y drwydded i Gymru gynnal yr Academi Mentrau Cymdeithasol, sy’n darparu rhaglenni dysgu a datblygu i gwmnïau sector preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector.

Yn siarad ar ôl yr agoriad swyddogol, dywedodd Janet:

“Roedd hi’n braf iawn cael mynychu agoriad swyddogol yr hyb cymunedol Creating Enterprise newydd sbon yng ngorsaf drenau Llandudno, sydd eisoes yn cael budd lleol positif, gan weld rhwng 87 a 10 o bobl ers agor ei ddrysau fis Medi.

“Fel y crybwyllais wrth Siambr y Senedd yn ddiweddar, mae ein Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gweithio’n ddiflino, yn aml y tu hwnt i’w cylch gwaith o ddarparu tai fforddiadwy a diogel. Mae hyn yn hynod berthnasol gyda’r gwaith eang sy’n cael ei wneud gan Cartrefi Conwy o dan faner Creating Enterprise.

“Gyda staff arbenigol sy’n gallu cynnig cyngor a hyfforddiant, yng nghanol Llandudno, cefais fy siomi ar yr ochr orau o weld gofod mor agored a chyfforddus y mae Cartrefi yn ei gynnig. Yn dilyn COP26 a fy ngalwadau i blannu mwy o blanhigion fel mesur oeri goddefol, rwy’n canmol y gosodiadau waliau byw i’r cymylau!”

Mae Creating Enterprise wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ennill sawl gwobr yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ar ôl cael ei enwi’r Cwmni sy’n Tyfu Gyflymaf yn y Gogledd, y trydydd cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a’r cwmni Adeiladu sy’n Tyfu Gyflymaf yng Nghymru 2019. Mae rhagor o wybodaeth yma. 

DIWEDD

Llun 1 a 2: Janet Finch-Saunders AS yn yr agoriad swyddogol gydag Andrew Bowden a Lesley Griffiths AS. Janet ac Andrew yn edmygu’r wal fyw.

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree