Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch-Saunders yn condemnio digwyddiadau sbeicio "llwfr" wrth alw am adolygiad

  • Tweet
Wednesday, 10 November, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth gyfrannu at ddadl Senedd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr angen i fynd i'r afael â phla sbeicio diodydd yng Nghymru, mae Janet Finch-Saunders AS - yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw am adolygiad cyflym dan arweiniad rhanddeiliaid i ddeall yn well anghenion y diwydiant nos wrth fynd i'r afael â phryderon a hyfforddiant staff, yn ogystal â chael darlun cywirach o nifer y digwyddiadau sbeicio sy'n digwydd.

Mae ymchwil gan StopTopps a gynhaliwyd yn gynharach eleni yn datgelu bod 38% o'r ymatebwyr wedi dioddef sbeicio diod o leiaf unwaith, ac nid oedd 98% ohonynt wedi rhoi gwybod i'r heddlu am y drosedd. Ar lefel leol, yng Ngogledd Cymru, mae'r heddlu wedi derbyn 22 adroddiad o sbeicio diodydd hyd yma yn 2021 gan arwain at arestio un yn unig. Yn 2020, cafwyd 18 o adroddiadau a dim arestiadau. 

Wrth sôn am ei galwadau y tu allan i'r Siambr, dywedodd Janet: 

“Mae sbeicio diodydd yn ffenomenon modern sy’n taro wrth wraidd fy mhryderon ynghylch diogelu lles ein hanwyliaid pan fyddant allan ac yn mwynhau ein lleoliadau lletygarwch. Mae clybiau'n cymryd camau i ddosbarthu caeadau amddiffynnol ar ddiodydd ac mae menywod ifanc yn gwisgo siacedi denim i atal pigiadau.  

“Mae drysu rhywun gyda pherygl o'i wneud yn anymwybodol drwy sbeicio ei ddiod yn waradwyddus ac yn weithred mor llwfr gan leiafrif o unigolion sydd bellach yn bygwth diogelwch ein pobl ifanc a hyfywedd gweithredwyr ein diwydiant nos rhagorol. 

“Mae difrifoldeb y sefyllfa yn golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad cyflym sy'n cael ei arwain gan randdeiliaid i ddarganfod gwir nifer yr achosion o sbeicio gyda nodwydd yng Nghymru ac archwilio ffyrdd y gall lleoliadau gymryd camau ataliol. Mae angen cadarnhad hefyd y byddai trafodaethau o'r fath yn cael eu defnyddio i ddiweddaru Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2019-2022. 

“Rwy'n talu teyrnged i'r ymgyrchwyr ifanc hynny sydd wedi gweithio i dynnu sylw at y pryder hwn, yn ogystal â'r gwaith rhagweithiol a wnaed gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a'r rhai sy'n barod i gynyddu'r chwiliadau wrth y drws mewn lleoliadau nos.   

“Ond rwy'n dal yn benderfynol y dylai Llywodraeth Cymru chwarae rhan yn y gwaith o gynorthwyo ymdrechion i fynd i'r afael â'r mater hwn, gan gynnwys drwy gefnogi'r gwaith o wella teledu cylch cyfyng i helpu i gasglu tystiolaeth a rhoi cymorth i hyfforddi staff ar sut i adnabod a delio â digwyddiadau sbeicio.” 

DIWEDD 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS/MS 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree