Mewn cwestiwn i Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru heddiw, anogodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid - Janet Finch-Saunders AS – y weinyddiaeth i "adolygu arian ac uchelgais y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd" fel y gellir gwneud ymdrechion pellach i ddal a storio carbon drwy adfer bioamrywiaeth.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo tua £5.75 miliwn o gyllid dros bum mlynedd, gyda thargedau o ddim ond 600-800 hectar y flwyddyn i gael eu hadfer. I'r gwrthwyneb, ac yn Lloegr, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £640 miliwn i adfer 35,000 hectar erbyn 2025. Tynnodd y cwestiwn sylw at gefnogaeth Janet i brosiect Uwch Conwy, sy'n rhan o ddull partneriaeth ehangach Uwch Conwy.
Wrth sôn am yr angen i adolygu'r rhaglen, dywedodd Janet:
“Rwy'n dal yn ddiwyro yn fy nghais i amgylcheddau ucheldir Cymru, gan gynnwys mawndiroedd, gael eu diogelu’n briodol, eu rheoli’n dda a'u gwella. Yn wir, lle mae mawndiroedd yr ucheldir yn cael eu gadael heb eu hamharu, gwyddom eu bod yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o storio carbon, cynnal bioamrywiaeth, a diogelu rhag llifogydd.
“Er fy mod yn croesawu'r rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd yng Nghymru, sydd â'r bwriad o helpu i storio carbon ac adfywio cynefinoedd hanfodol, rwy'n dal yn bryderus nad yw'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol, gyda thargedau o ddim ond 600-800 hectar y flwyddyn i gael eu hadfer.
“Gyda Sero Net Cymru'n cydnabod pwysigrwydd defnydd tir a'r angen am waith adfer, dyma'r amser i'r weinyddiaeth ddatganoledig adolygu a chynyddu uchelgais y rhaglen hon.”
DIWEDD