Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Arddangosiad tân gwyllt anhygoel Traeth y Gogledd yn ôl gyda chlec

  • Tweet
Monday, 8 November, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi canmol ymroddiad a gwaith caled rhanddeiliaid a gwirfoddolwyr lleol wrth gynnal arddangosiad tân gwyllt blynyddol Llandudno ar draeth y Gogledd. Cynhaliwyd yr arddangosiad ar ddydd Sul 7 Tachwedd 2021, ac mae’r arddangosiad traeth 20 munud hwn yn dibynnu ar y llanw. Roedd angen tuag awr a hanner o waith paratoi ymlaen llaw i osod yr arddangosiad yn ddiogel.

Yn rhoi sylwadau ar ôl y digwyddiad, dywedodd Janet:

“Rwy’n rhannu cyffro’r preswylwyr lleol ac ymwelwyr o weld yr arddangosiad tân gwyllt ysblennydd yn ôl ar draeth y Gogledd yn Llandudno. Mae llwyddiant y digwyddiad traeth heb ei ail hwn yn hwb enfawr i’r economi leol wrth i ni ddal ati i adfer ar ôl Covid-19, ac yn pwysleisio pam mai Llandudno yw Brenhines cyrchfannau Cymru.

“Ar ôl gorfod canslo arddangosiad 2020 am resymau amlwg, roedd llawer o ddisgwyl am y digwyddiad teuluol hwn ac ar ôl tywydd ffafriol ac agoriad yn amseroedd y llanw, roedd hi’n braf iawn gweld y rocedi anhygoel hyn yn rhoi fflach o liw dros awyr Llandudno.

“Ar ran yr etholaeth, hoffwn dalu teyrnged i ymroddiad Cyngor Tref Llandudno a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i adfer y digwyddiad blynyddol hanfodol hwn ar ôl saib bach.  Rwyf hefyd am ddiolch i’r rhai ar Bier Llandudno am fod mor hael â darparu’r peiriannau a’r gweithwyr oedd eu hangen i gynnal digwyddiad o’r fath, ynghyd â Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Conwy am helpu i gau’r ffordd yn ôl yr angen.

“Heb waith caled y gweithwyr a’r gwirfoddolwyr, ni fyddai cynnal digwyddiadau fel hyn yn ymarferol.  Diolch o galon i chi gyd am danio’r cynlluniau hyn a darparu’r fath sioe.”

DIWEDD

Ffoto: gan Jingda Chen ar Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree