Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi siarad am ei balchder o agoriad swyddogol poblogaidd y Senedd, dan arweiniad Ei Mawrhydi'r Frenhines, ynghyd â'u Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw.
Agorodd y Frenhines Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn swyddogol ym 1999 ac mae wedi agor pob sesiwn ar ôl etholiad yng Nghymru ers hynny. Yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol yn y Siambr, gosodwyd y byrllysg seremonïol yn y Senedd i nodi agoriad swyddogol y chweched Senedd.
Wrth roi sylwadau ar y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Roedd hi’n dipyn o anrhydedd mynychu agoriad swyddogol y chweched Senedd. Roedd hi’n braf iawn croesawu Ei Mawrhydi’r Frenhines i’r Senedd ym Mae Caerdydd, yn ogystal â'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a'i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw.
“Yn y Siambr, roedd hi’n fraint clywed Ei Mawrhydi'r Frenhines yn annerch Cymru a gwrando ar y delyn yn cael ei chanu mor hyfryd, a’r wefr o fwynhau ‘Your Voice’.
“Yn bwysig iawn, rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle hefyd i’r Teulu Brenhinol gyfarfod nifer o arwyr Covid, sydd wedi cefnogi ein cymunedau’n ddiflino gydol y pandemig.
“Roeddwn i’n falch iawn bod pob aelod o’r Senedd wedi’u gwahodd i fod yn bresennol, a bod y mwyafrif llethol yno. Nid yw’n afresymol awgrymu nawr y dylai pob aelod o’r Senedd fod yn bresennol mewn sesiynau Cyfarfodydd Llawn, yn y cnawd, o hyn ymlaen.”
DIWEDD
Ffoto: Janet gyda’i gŵr, Gareth Saunders.