Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Mynegi pryderon am hanesion o gyfnodau aros hir am frechiadau atgyfnerthu dros y gaeaf

  • Tweet
Thursday, 21 October, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi codi pryderon gyda gweithredwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn dilyn honiadau gan etholwyr oedrannus eu bod yn gweld cyfnodau aros hir, y tu allan yn y tywydd garw, i dderbyn eu pigiad atgyfnerthu Covid-19.

Mae Janet wedi ysgrifennu at Jo Whitehead, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, i amlinellu ei phryderon a gofyn i’r Bwrdd gynghori ar ba gamau y gellir eu cymryd i fynd i’r afael ag amseroedd aros hir a gwella gofal cleifion wrth iddynt aros. Mae’r Aelod hefyd wedi cysylltu â Rheolwr Rhaglen Frechu’r Bwrdd Iechyd i egluro ei phryderon.

Wrth drafod ei phryder, dywedodd Janet:

“Mae llwyddiant y rhaglen frechu Covid-19 ledled etholaeth Aberconwy yn dangos pa mor galed mae ein gweithlu a gwirfoddolwyr lleol yn gweithio, ymhob ffordd, ac maent wedi dal ati i sicrhau bod ein preswylwyr yn cael eu diogelu a chynnig y cyfle i wella.

“Mae llawer o etholwyr wedi anfon negeseuon e-bost graslon at fy swyddfa yn canmol gwaith diflino’r rhai sy’n gweithio ar y rhaglen frechu hon. Fodd bynnag, rwy’n clywed mwy a mwy o honiadau gan bobl fwyaf bregus ein cymdeithas eu bod yn gorfod aros yn yr awyr agored, mewn tywydd oer a garw, i dderbyn eu pigiad atgyfnerthu.

“Cyfrifoldeb Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw gweinyddu’r rhaglen atgyfnerthu newydd hon ac rwyf wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr y Bwrdd yn amlinellu fy mhryderon a gofyn iddi pa gamau y dylid eu cymryd i leihau amseroedd aros hir a gwella gofal y rhai sy’n aros.

“Yn y cyfamser, rwy’n erfyn ar fy holl etholwyr i fynd i’r ganolfan frechu ar yr amser a nodir ar eu gwahoddiad a ddim cyn hynny. Tra bod dod i apwyntiad yn gynnar yn arwydd o gwrteisi a brwdfrydedd fel arfer, yn yr achos hwn gallai fod yn cyfrannu at amseroedd aros hir.

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree