Rhoddodd Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, ganmoliaeth i’r gefnogaeth a ddarperir i unigolion lleol gydag anghenion uchel yn Llety â Chymorth St Winifried yn Llandudno, yn ystod ymweliad â’r llety. Yn ogystal â chyfarfod Kelly Issacs, perchennog a rheolwr y cartref, cafodd Janet hefyd gyfarfod y preswylwyr Caroline, Fay, a Clive.
Yn ystod ei hymweliad, roedd Janet wrth ei bodd yn cael clywed am wahanol weithgareddau’r preswylwyr, fel garddio, paentio a hyfforddi cŵn. Gwnaeth y gofal y mae’r tîm yn ei ddangos i’r preswylwyr argraff fawr arni, ynghyd â’r teimlad o berthyn i deulu hyfryd sydd yn St Winifred.
Yn siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:
“Roedd hi’n hyfryd cael cyfarfod Kelly a phreswylwyr Llety â Chymorth St Winifred, sy’n darparu llety a chymorth hanfodol i unigolion sydd ag anghenion uchel. Mae’r busnes teuluol hwn, a ddechreuwyd yn y lle cyntaf gan deulu yng nghyfraith Kelly, wedi dod yn rhan o’r gymuned gyda rhai preswylwyr wedi bod yn eu gofal ers blynyddoedd.
“Mae’r deunaw mis anodd diwethaf wedi cadarnhau’r gwaith hollbwysig sy’n cael ei wneud gan y rhai yn y sector gofal cymdeithasol. Mae ein hyrwyddwyr gofal yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal i rai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas. Wrth i ni ddod dros y pandemig ac edrych tuag at gyfnod o adfer, mae camau pendant y gellir eu cymryd nawr i gefnogi ein darparwyr gofal.
“Mae’n hollbwysig bod y sianeli cyfathrebu rhwng swyddogion etholedig a’r rhai ar y rheng flaen yn parhau’n agored, os ydym am roi newidiadau ar waith. Dyna pam roedd clywed am y frwydr i gael ymyrraeth mewn argyfwng yn peri gofid i mi.
“O ystyried hyn law yn llaw â phryderon am y diffyg gwasanaeth iechyd galwedigaethol, mae’r rhain yn bryderon sydd angen gweithredu arnynt a byddaf yn eu codi gyda swyddogion yn yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru.”
DIWEDD
Ffoto: (o’r chwith i’r dde) Kelly Isaacs, Janet Finch-Saunders AS, Clive, a Caroline.