Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Dweud eich dweud ar ddiogelu Bae Penrhyn

  • Tweet
Friday, 15 October, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn annog preswylwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig iawn sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Awdurdod Lleol yn ystyried opsiynau i ddiogelu’r arfordir ym Mae Penrhyn rhag llifogydd ac erydu arfordirol.

Heb weithgareddau cynnal a chadw parhaus ar y traeth, mae’r morglawdd mewn perygl o fethiant, a bydd hynny’n golygu perygl o lifogydd ac erydu i eiddo ac asedau. Mae’r Awdurdod Lleol yn bwriadu gwella’r amddiffynfeydd arfordirol drwy adeiladau morglawdd siâp T alltraeth rhwng y grwynau sy’n bodoli eisoes.

Ar yr un pryd, byddant yn mewnforio graean bras i eistedd o flaen y morglawdd. Y gobaith yw y bydd hyn yn amddiffyn y morglawdd a’r eiddo a’r seilwaith y tu ôl iddo rhag bygythiad parhaus y môr a’r lefelau newid hinsawdd sydd wedi’u derbyn. Mae gwella’r promenâd yn uchelgais hefyd. Gellir gweld y cynlluniau a rhoi sylwadau yma.

Yn rhoi sylwadau ar yr ymgynghoriad, dywedodd Janet:

“Diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am y gwaith maen nhw’n ei wneud i amddiffyn Bae Penrhyn.

“Nid yw gwneud dim a dal ati gyda’r trefniadau presennol yn opsiwn, felly rwy’n croesawu’r ymgynghoriad heddiw.

“Mae’n hanfodol bod cymaint o breswylwyr â phosib yn cael dweud eu dweud am y cynllun cyn i gais cynllunio gael ei gyflwyno, felly gofalwch anfon eich adborth cyn 11 Tachwedd 2021.”

DIWEDD

Nodiadau: Bae Penrhyn - Gwelliannau i Amddiffynfeydd Arfordirol

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree