Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Prosiect ynni adnewyddadwy gwerth £1.7 biliwn yn “gyfle cyffrous i Fae Abertawe, Cymru a’r Byd”

  • Tweet
Wednesday, 27 October, 2021
  • Assembly News

Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, wedi croesawu’r newyddion cyffrous bod consortiwm rhyngwladol dan arweiniad DST Innovations, wedi cynnig y prosiect Blue Eden, a fyddai’n gweld:

  • 1,000 o swyddi yn cael eu creu yn gwneud batris uwch dechnoleg i storio ynni
  • adeiladu fferm ynni solar arnofiol
  • canolfan ddata fawr yn cael ei phweru gan ffynhonnell ynni adnewyddadwy di-dor
  • defnyddio gwres a gynhyrchir gan y gweinyddwyr cyfrifiadurol yn y ganolfan mewn 5,000 eco-gartref newydd
  • agor canolfan ymchwil i’r cefnforoedd a newid hinsawdd a 150 o dai arnofiol.

 

Gan roi sylwadau ar y prosiect, dywedodd Janet:

 

“Roedd Llywodraeth y DU yn glir ynghylch y Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd ac mai’r uchelgais oedd creu amodau ar gyfer y sector preifat i fuddsoddi gyda hyder, gan ddefnyddio creadigrwydd unigryw cyfalafiaeth i greu a thyfu diwydiannau gwyrdd newydd.

 

“Mae’r prosiect hwn, a allai gefnogi oddeutu 16,000 o swyddi ledled dinas-ranbarth Bae Abertawe, creu ynni gwyrdd a miloedd o eco-gartrefi, yn gyfle cyffrous i Fae Abertawe, Cymru a gweddill y byd.

 

“Ymddengys na fyddai angen yr un geiniog o arian trethdalwyr, felly gobeithio y gellid efelychu’r model hwn ledled y DU, gan helpu i greu cam ymlaen digyffelyb at gyflawni sero-net”.

 

DIWEDD

 

Nodiadau: Renewable energy: £1.7bn plan for Swansea led by Bridgend's DST

You may also be interested in

J

MS Praises Eisteddfod yr Urdd 2026 on Ynys Môn

Thursday, 28 May, 2026
Janet Finch-Saunders MS has given praise to all involved in this year’s Eisteddfod yr Urdd 2026 on Ynys Môn, celebrating Welsh language, culture and young talent from across the country. Thousands of visitors, competitors and families have travelled to the island for the event, providing a majo

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree