Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Cwestiwn i'r Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen i "gau'r bwlch" rhwng diagnosis a thriniaeth canser

  • Tweet
Tuesday, 12 October, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Wrth holi'r Prif Weinidog am amseroedd aros am driniaeth canser yn y Gogledd, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio blaengynllun gweithredu i "gau'r bwlch rhwng cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth briodol.” 

Mae amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi'r GIG ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos cynnydd o 11 gwaith yn nifer y bobl sy'n aros dros 8 wythnos am un o 7 prawf allweddol a ddefnyddir i ddiagnosio canser. 

Wrth sôn am ei chwestiwn yn y Siambr, dywedodd Janet: 

“Yn ôl ystadegau diweddar, nid yw tua thraean y cleifion yn rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dechrau ar eu triniaeth gyntaf yn y mis o fewn chwe deg dau diwrnod o gael eu diagnosio â chanser. 

"Yn fwy na hynny, ochr yn ochr ag oedi cyn cael diagnosis, mae bwlch sy’n destun pryder rhwng cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth briodol. Er enghraifft, rwy'n gwybod am o leiaf un etholwr na chafodd ei hysbysu am yr opsiynau triniaeth sydd ar gael yn dilyn diagnosis cam 4 sy’n newid bywyd; yn hytrach, cafodd wybod y byddai atgyfeiriad yn cael ei wneud i Wrecsam neu Lerpwl maes o law.

“Mae'r sefyllfa hon yn arwain at oedi annerbyniol i gleifion a blinder difrifol annerbyniol i staff rheng flaen sy'n gweithio mor galed. Dyma pam rydw i wedi pwyso ar y Prif Weinidog i sicrhau bod ei Gabinet yn cydweithio i gau'r bwlch rhwng cael diagnosis a dod o hyd i driniaeth briodol.” 

DIWEDD 

Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree