Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canmoliaeth am waith amgylcheddol cymunedol ar ganmlwyddiant y Soroptimyddion Rhyngwladol

  • Tweet
Monday, 11 October, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol yr Eneth 2021, mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi canmol gwaith amgylcheddol cymunedol Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno, yn dilyn ei phresenoldeb mewn digwyddiad dathlu canmlwyddiant yn Happy Valley. Yn y digwyddiad, aeth Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno ati i blannu dwy goeden, cysegru mainc a chladdu capsiwl amser. 

Fel mudiad gwirfoddol byd-eang, mae’r Soroptimyddion Rhyngwladol wedi gweithio'n ddiflino i drawsnewid bywydau menywod a merched ledled y byd, gyda bron i 72,000 o aelodau mewn 121 o wledydd. Mae'n sefydliad sy’n ystyried cymuned yn bwysig ac mae’n darparu cyfleoedd i wirfoddoli, cyfarfod ag unigolion o'r un anian a gwneud gwahaniaeth. 

Mae clwb Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno yn perthyn i ranbarth Swydd Gaer, Gogledd Cymru a Chilgwri. Un o'r prosiectau rhanbarthol yw casglu topiau poteli plastig i'w hailgylchu er budd yr amgylchedd. 

Wrth siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Janet: 

“Llongyfarchiadau i bawb yn y sefydliad, wrth i ni bwyso a mesur yr hyn mae'r sefydliad gwych hwn wedi'i gyflawni ledled y byd dros y 100 mlynedd diwethaf. 

“Ym mlwyddyn y canmlwyddiant, mae'n fendigedig cael bod yn rhan o’r digwyddiad gwych hwn yn Happy Valley gyda Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno drwy blannu rhywbeth a fydd o fudd i genedlaethau'r dyfodol - gan wreiddio i ddiogelu ein hamgylchedd a hwyluso'r gwaith o ddarparu aer glân. 

“Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y bydd y coed rydyn ni'n eu plannu nawr yn pennu tymheredd ein trefi a'n dinasoedd yn y ganrif nesaf. Drwy gynyddu cyfraddau plannu trefol, gallwn ni wrthweithio'r tymereddau sy'n gysylltiedig â'r strwythurau tarmac a choncrit presennol. Hoffwn ddiolch yn fawr i'r rhai sy'n bresennol am y gwaith blaengar hwn.

“Mae cael mainc – a gynhyrchwyd gan y cwmni mae'r grŵp yn rhoi eu topiau poteli iddo – yn ymyl y coed hyn yn tanlinellu'r budd i'n cymuned. Rwy'n gobeithio y bydd y gofod hwn yn rhoi lle myfyriol, cymunedol i lawer mwy o fenywod a merched gyfarfod â'u hanwyliaid.” 

Am y tro cyntaf ers 1975, bwriad Soroptimyddion Rhyngwladol Prydain Fawr ac Iwerddon oedd cynnal eu Cynhadledd yn nhref arfordirol Llandudno. Oherwydd pryderon iechyd y cyhoedd, er bod y digwyddiad bellach wedi symud ar-lein, mae'r grŵp lleol yn dal i geisio dod â hyfrydwch Llandudno i fenywod ledled y wlad. 

DIWEDD 

Ffotograff 1: Janet Finch-Saunders AS gyda Llywydd clwb Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno, Janet Murfin. 
Ffotograff 2: Janet Finch-Saunders AS mewn ffotograff grŵp yn cynnwys Maer Llandudno, y Cynghorydd Harry Saville, Mr Mark Isherwood AS, Mr Sam Rowlands AS, Mr Robin Millar AS, y Cynghorydd Greg Robbins, y Cynghorydd Louise Emery a Llywydd clwb Soroptimyddion Rhyngwladol Llandudno, Janet Murfin.

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree