Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn: Galwadau am gydweithredu llythrennedd digidol i fynd i’r afael â sgamiau

  • Tweet
Friday, 1 October, 2021
  • Local News

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn y Cenhedloedd Unedig, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau ariannol er mwyn codi ymwybyddiaeth o sgamiau ar-lein i’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.

Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, gofynnodd Janet:

“A wneith y Gweinidog gadarnhau pa sgyrsiau mae Llywodraeth Cymru wedi’u gael gyda darparwyr gwasanaethau ariannol ynghylch cynyddu ymwybyddiaeth llythrennedd digidol a sgamiau ymhlith pobl hŷn, yn dilyn canfyddiadau arolwg Hourglass a Hodge Bank?”

Daw’r ymyrraeth yn dilyn canfyddiadau arolwg a gomisiynwyd gan Hourglass a Hodge o 2,000 o oedolion rhwng 45 a 70 oed, gan mai nhw yn aml sy’n gofalu am bobl hŷn neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin. Roedd dros chwarter (27%) yn adnabod neu’n gofalu am berson hŷn sydd wedi’i dargedu gan sgam ar-lein i gael mynediad at ei arian yn y flwyddyn ddiwethaf ac mae oddeutu 14% yn adnabod neu’n gofalu am berson sydd wedi dioddef cam-drin economaidd gan berson y dylent allu ymddiried ynddo.

Wrth nodi’r diwrnod ymwybyddiaeth rhyngwladol, dywedodd Janet:

“Wrth i fwy a mwy o elfennau ein bywydau bob dydd fynd yn ddigidol yn unig, mae llawer o’n pobl hŷn a bregus heb y gefnogaeth a mynediad priodol yn cael eu gadael ar ôl ac yn agored i rywun fanteisio arnynt. Mae pobl hŷn hefyd yn rhoi’r gorau i’w cyfrifoldebau mewn grwpiau cymunedol a grwpiau yn y capel a’r eglwys wrth i gymhlethdod gweithdrefnau bancio ar-lein gynyddu bob dydd.

“Cam-drin economaidd yw un o’r ffurfiau mwyaf cyffredin o gam-drin pobl hŷn. Rhwng 2017 a 2019, rwy’n cael ar ddeall bod 39% o alwadau i linell gymorth Hourglass ynghylch cam-drin economaidd. Mae’n frawychus hefyd bod yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol hefyd wedi canfod bod yr henoed wedi’u targedu’n benodol gan dwyllwyr llwfr yn ystod y pandemig Covid-19.

“Datgelodd ymchwil gan Which bod pobl dros 60 oed yn llawer mwy agored i dwyll cyfrifiadurol, gan fod llythrennedd technegol yn tueddu i fod yn is. Dyma pam ein bod angen gweld mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr gwasanaethau ariannol fel bod pob bygythiad a ddaw yn sgil yr arena ar-lein yn gallu cael ei atal drwy hyder ac addysg.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Thema Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2021 yw “Cydraddoldeb Digidol ar gyfer Pob Oed” sy’n cadarnhau’r angen i bobl hŷn gael mynediad i’r byd digidol a chael cymryd rhan ynddo mewn ffordd ystyrlon. Rhagor o wybodaeth yma. 
  • I ddarllen am ymyrraeth ddiweddar Janet ynghylch pryderon grwpiau cymunedol lleol am gael mynediad at gyfrifon banc, cliciwch yma. 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree