Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canmol Sylfeini Effeithlon o ran Ynni Datblygiad Glanrafon

  • Tweet
Wednesday, 29 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS
JFS Selfie

Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan Cartrefi Conwy i ailddatblygu Glanrafon yn Llanrwst, gan gynnwys cynigion am gynllun cartrefi modiwlaidd newydd sy’n ceisio gwella effeithlonrwydd gwres a mynd i’r afael â newid hinsawdd.

Cafodd Mrs Finch-Saunders ei thywys o gwmpas y safle gydag Andrew Bowden, Prif Weithredwr y grŵp. Hefyd yn bresennol roedd Daniel Hall (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cymdogaethau), Bill Hunt (Aelod o’r Bwrdd), Matthew Stowe (Swyddog Datblygu Amgylcheddol), Owain Roberts (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau a Diogelwch Tenantiaid), a David Kelsall (Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu a Thwf).

Mae’r cynllun yn cynnwys adeiladu un deg pedwar cartref newydd, i gyd yn gymysgedd o eiddo 3 a 4 ystafell wely, a’r gobaith yw y bydd hyn yn helpu i gryfhau’r stoc tai yn lleol. Bydd y gwaith hefyd yn uwchraddio a gwella’r man chwarae plant presennol sydd yng nghanol y safle.

Gan roi sylwadau ar ei ymweliad, meddai Janet:

"Roedd hi’n braf iawn cael ymweld â safle Glanrafon yn Llanrwst i glywed am gynlluniau uchelgeisiol a gwyrdd Cartrefi Conwy sy’n diogelu ar gyfer y dyfodol wrth wneud yr ailddatblygiad hwn. Nid yn unig ei fod yn ymateb i’r risgiau a ddaw yn sgil Newid Hinsawdd, ond mae hefyd yn ceisio uno’r gymuned drwy greu mannau chwarae mentrus newydd i’r gymuned.

“Mae’r cartrefi newydd yn ychwanegu at y stoc tai lleol a byddant yn cael eu hadeiladu drwy ddefnyddio dull adeiladu modiwlaidd arloesol a fydd yn anhygoel o effeithlon o ran ynni, a dim ond un rheiddiadur fydd ei angen i gynhesu’r eiddo cyfan. Dyma’r union fath o arloesedd adeiladu cartrefi a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n lles.

“Datgelodd adroddiad diweddar CCRA3 y bydd rheoleiddio tymheredd yn ein cartrefi yn hollbwysig os ydym am ddiogelu iechyd y cyhoedd. Trwy roi pwyslais ar inswleiddio a llif tymheredd, bydd y gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y safle hwn yn helpu i arbed arian ac achub y blaned.

“Yn fy rôl fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, roeddwn wedi ysgrifennu at Andrew i archwilio sut mae ein Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gwireddu’r heriau a ddaw yn sgil hinsawdd sy’n newid. Wrth ymweld â’r safle, roedd hi’n hyfryd gweld ymrwymiadau yn cael eu troi’n gamau ymarferol.

Meddai siaradwr ar gyfer Cartrefi Conwy:

"Mae datblygiad Glanrafon yn Llanrwst yn rhan o raglen adfywio ehangach yn yr ardal. Rydym yn adeiladu 14 cartref teulu i safon PassivHaus sy’n golygu arbedion ynni enfawr i’n tenantiaid. Adeiladwyd y fframiau pren ar gyfer y cartrefi hyn yn ein ffatri ein hunain, Atebion Modiwlaidd Creu Menter, sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ar gyfer ein tenantiaid.

Ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth cyllid Rhaglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu teuluoedd i’r cartrefi hyfryd hyn yn y flwyddyn newydd.”

DIWEDD 

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Janet

Calls to Protect Penrhos Coastal Park From Huge Development

Wednesday, 18 March, 2026
Janet Finch-Saunders, the Welsh Conservative Shadow Cabinet Secretary for Climate Change and the Environment, wrote to the Counsel General and Minister for Delivery, Julie James MS, calling for the Penrhos Coastal Park to be preserved. Janet commented: “There are significant concerns about

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree