Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn canmol ymchwil "arloesol" o Gymru ar Ddiwrnod Ymchwil Canser y Byd

  • Tweet
Friday, 24 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw yw Diwrnod Ymchwil Canser y Byd (24 Medi 2021), menter fyd-eang i hyrwyddo ymchwil canser, gyda'r nod o drechu’r clefyd yn y pen draw.  Mae ymchwil canser yn cyfrannu at ddarganfod profion, offer a thriniaethau sy'n gwella bywydau pobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser. 

Wrth nodi'r diwrnod ymwybyddiaeth byd-eang hwn, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi canmol yr ymchwil achub bywyd mae Ymchwil Canser Cymru yn ei chynnal mewn prifysgolion, meddygfeydd ac ysbytai ledled Cymru. 

Dywedodd Janet: 

“Mae'r ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud mewn safleoedd ledled Cymru yn archwilio prosesau sylfaenol bioleg canser. Yn bwysig, mae hynny'n golygu bod ein hymchwilwyr yn archwilio pam a sut mae celloedd canser yn tyfu, yn ymosod ac yn lledaenu, a pham mae rhai'n gwrthsefyll triniaeth. 

“Mae ymchwil yn waith parhaus a bydd y canlyniadau'n amlwg yn yr hirdymor. Diolch i'n hymchwilwyr ardderchog, mae tua 2 o bob 4 o bobl yn y DU yn llwyddo i fyw am 10 mlynedd a mwy wedi'r canser cychwynnol. Mae'r rhagolygon o ddatblygiadau mawr pwysig i drechu canser yn fwy nag erioed, ond mae cyllid a rhoddion yn hanfodol o hyd i allu gwireddu’r cyfleoedd ymchwil sy’n bodoli. 

“Ar Ddiwrnod Ymchwil Canser y Byd, ar ran etholwyr Aberconwy, hoffwn ddiolch o galon am y gwaith sy'n cael ei wneud gan weithwyr iechyd proffesiynol rheng flaen, staff gofal hosbis, ein sefydliadau ymchwil a rhoi teyrnged i'r anwyliaid hynny sy'n darparu rhwydweithiau cymorth hanfodol. Gyda'i gilydd, mae'r ymdrechion hyn yn gwneud byd o wahaniaeth.

“O gofio bod arolwg diweddar ledled y DU dan arweiniad Prifysgol Caerdydd wedi canfod bod mwy nag 1 o bob 5 o bobl yn llai tebygol o gael eu sgrinio am ganser na chyn y pandemig, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd y cam cyntaf i sicrhau nad yw'r cyhoedd yn storio problemau i'w trin yn nes ymlaen.  

“Dyma pam rwy'n parhau i annog Llywodraeth Cymru i gyflymu mynediad at sgrinio am ddim am ganser y coluddyn i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed, o gofio na fydd yr ehangu oedran fesul cam yn cael ei gwblhau tan 2024-25.” 

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Ar hyn o bryd mae Sgrinio Coluddion Cymru yn anfon pecyn sgrinio i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed bob dwy flynedd, gyda Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu grwpiau oedran y rhaglen fesul cam. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd a Cancer Research UK, a gynhaliodd astudiaeth ddiweddar, yn galw am ymgyrchoedd cenedlaethol i annog pobl i gael eu sgrinio.

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree