Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Pryder am broblemau cael apwyntiadau wyneb yn wyneb â meddygon teulu

  • Tweet
Thursday, 23 September, 2021
  • Local News

Mae’r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi sôn am yr angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru eu canllawiau ar frys ar ailddechrau apwyntiadau meddygon teulu wyneb yn wyneb, ar ôl ysgrifennu at 14 o feddygfeydd lleol i holi sut allai helpu gyda'r holl alwadau ar ddarparwyr Gofal Sylfaenol.

Mewn dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig ar y straen ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddoe, eglurodd Mrs Finch-Saunders fod anallu rhai cleifion i gael apwyntiadau wyneb yn wyneb â meddygon teulu yn gwaethygu'r sefyllfa yn lleol. Daw ei hymyriad wrth i'r Cyngor Iechyd Cymuned ddweud wrth newyddion BBC Cymru bod llawer o gleifion wedi'u gadael yn aros am hyd at awr ar y ffôn i siarad â rhywun.

Canfu ffigurau BMA Cymru ym mis Mai 2021 fod meddygon teulu bellach yn wynebu cyfraddau apwyntiadau 18% yn uwch na'r lefelau cyn Covid. Roedd arolwg diweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu hefyd yn dangos bod tua 88% o'r staff yn credu bod apwyntiadau wyneb yn wyneb yn bwysig er mwyn meithrin perthynas lle mae’r claf a’r meddyg yn gallu ymddiried yn ei gilydd. 

Gan egluro'r angen i weithredu ar fyrder, meddai Janet:

“Dros y misoedd blaenorol rwyf wedi bod yn poeni fwyfwy am yr holl drigolion sy'n ei chael hi'n anodd cael apwyntiad meddyg teulu wyneb yn wyneb, yn hytrach nag un rhithwir neu dros y ffôn. Dyna pam, yn dilyn cyfarfod â Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, ysgrifennais at bedwar ar ddeg o feddygfeydd lleol i weld sut y gallwn gynnig mwy o gymorth.

“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer meddygfeydd teulu i barhau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn yn rhoi pwysau pellach ar y gwasanaethau brys, gan gynnwys Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Felly hefyd y cyngor yn fy etholaeth i bobl sydd â phryderon iechyd meddwl i fynd i'r adran damweiniau ac achosion brys yn hytrach na gwella'r mynediad lleol i gymorth arbenigol o'r fath. 

“Gwyddom mai ein trigolion oedrannus sy'n cael eu taro waethaf gan ddiffyg apwyntiadau wyneb yn wyneb. Yn wir, mae ymchwil yn dangos mai dim ond tua 75% o ddynion a 68% o fenywod rhwng 65 a 74 oed sy'n defnyddio'r rhyngrwyd. Mae apwyntiadau personol, wyneb yn wyneb hefyd yn hanfodol i feithrin cysylltiadau hirdymor, llawn ymddiriedaeth. 

“Er bod y defnydd o dechnoleg ddigidol wedi chwarae rhan bwysig o ran caniatáu i'n gwasanaethau Gofal Sylfaenol barhau gydol Covid-19, dylai'r pwyslais bellach fod ar helpu i ddychwelyd at fwy o apwyntiadau wyneb yn wyneb i'r cleifion sydd fwyaf angen hynny. Mae hyn yn golygu adolygu'r systemau archebu dros y ffôn sy'n cael eu defnyddio gan feddygfeydd i sicrhau y gallant ymdopi â gofynion brysbennu.” 

DIWEDD 

Llun: Online Marketing/Unsplash

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree