Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi defnyddio cyfraniad i ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr argyfwng sy'n wynebu Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i alw am sefydlu cynllun gweithlu cynhwysfawr, cam a gymeradwywyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Roedd cyfraniad Mrs Finch-Saunders yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol ddiweddar ei hetholwyr, gyda nifer ohonynt wedi tynnu sylw at y broblem graidd o drosglwyddo o'r ambiwlans i'r adran damweiniau ac achosion brys.
Yn ystod chwe mis cyntaf 2021, collwyd 47,871 o oriau gan griwiau ambiwlans yn aros mwy na 15 munud i drosglwyddo cleifion i staff A&E. Ym Mwrdd Betsi Cadwaladr, collwyd 16,937 o oriau rhwng Ionawr a Mehefin 2021.
Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Hoffwn dalu teyrnged i'n staff a chriwiau Ambiwlans, ein gweithwyr switsfwrdd a'r staff nyrsio hynny sy'n aros wrth ddrysau'r adran damweiniau ac achosion brys, sy'n ceisio mynd i'r afael ag amseroedd aros ar gyfer trosglwyddo. Mae'n hanfodol bod yr ymyriad heddiw yn arwain at ateb cadarnhaol i'w pryderon.
“Mae diffyg gwelyau, prinder staff a nifer cynyddol o gleifion yn troi at y gwasanaeth ambiwlans am eu bod yn cael trafferth cael gafael ar gymorth wyneb yn wyneb yn cyfrannu at y broblem. Gyda phwysau'r gaeaf eisoes yn dechrau cnoi ym mis Medi, rhaid i'r weinyddiaeth ym Mae Caerdydd gyhoeddi cynllun cynhwysfawr i'r gweithlu.
Mae "Cynllun Adfer y GIG" fel y'i gelwir gan Lywodraeth Cymru yn gadael llawer o'r manylion i Fyrddau Iechyd Lleol a chlinigwyr. Rydym angen cadarnhad ar fyrder o ba gamau mae'r Gweinidog yn eu cymryd i hwyluso cais y gwasanaeth ambiwlans er mwyn i'r fyddin allu dechrau cynnig help llaw.
“Mae Cymru angen gweld gweithredu ar y mater yn syth er mwyn rhoi'r grym i'n gwasanaethau Ambiwlans weithio; adfer eu henw da a sicrhau bod y cleifion mwyaf anghenus yn cael y gofal maen nhw'n ei haeddu."
DIWEDD
Llun: gan Ian Taylor ar Unsplash