Heddiw, mae Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Llywodraeth Cymru i roi cymorth pellach i grwpiau cymunedol bach, megis eglwysi, a allai wynebu problemau yn sgil newidiadau diweddar i'r drefn fancio.
Daw hyn wrth i HSBC gyhoeddi y bydd yn codi £60 y flwyddyn ar sefydliadau bach o'r fath i gadw eu cyfrifon ar agor. Mae banc y Stryd Fawr hefyd wedi cyflwyno taliadau newydd ar gyfer trafodion cangen, gan gynnwys ffi o 0.4% i dalu arian i mewn a chodi arian parod a ffi o 40c i dalu siec i mewn.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi awgrymu y gallai grwpiau o’r fath agor a chadw cyfrifon banc gyda Banc Datblygu Cymru
Meddai Janet:
“Mae ein helusennau, grwpiau gwirfoddol a chynulleidfaoedd eglwysig yn dibynnu ar gyfrifon banc bach. Ar ôl 18 mis hynod heriol i grwpiau o'r fath, mae'n ddigalon clywed y bydd un banc ar y stryd fawr rwan yn ceisio codi tâl ar y sefydliadau bach hyn i gadw eu cyfrifon ar agor.
“Rwy'n poeni y bydd banciau eraill yn dilyn eu hesiampl naill ai drwy godi taliadau tebyg neu gael gwared ar wasanaethau mewn canghennau lleol yn gyfan gwbl. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi clywed am grŵp yn fy etholaeth yn cadw eu harian mewn sêff gan eu bod yn poeni gymaint am ffioedd cynyddol eu cyfri banc.
“Mae llawer o drysoryddion y grwpiau cymunedol pwysig hyn yn reit oedrannus a bellach yn ystyried rhoi'r gorau i'r cyfrifoldebau hyn oherwydd diffyg gwasanaethau lleol wyneb yn wyneb a gweithdrefnau cynyddol gymhleth.
“Felly, rwyf wedi annog y Gweinidog i adolygu pa gymorth pellach y gellir ei ddarparu i'r grwpiau bach hyn, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio Banc Datblygu Cymru fel modd o agor a chynnal cyfrifon banc yn haws."
DIWEDD
Llun: gan Michael Longmire ar Unsplash