Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi defnyddio ymyriad yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd i danlinellu'r angen i gleifion sy'n dioddef o ddirywiad y maciwla sy'n gysylltiedig ag oedran (AMD) gwlyb gael y pigiadau misol sydd wedi'u rhagnodi iddynt.
Mae AMD gwlyb yn datblygu pan fydd pibellau gwaed annormal yn tyfu i'r maciwla. Mae'r rhain yn gollwng gwaed neu hylif a all arwain at golli golwg canol y maes yn gyflym iawn. Gall AMD gwlyb ddatblygu'n sydyn iawn ond mae modd ei drin os caiff ei ddal yn gyflym.
Mae cyffuriau'n cael eu chwistrellu i'r llygad i atal twf y pibellau gwaed annormal, fel arfer drwy ddos o dri phigiad unwaith y mis am dri mis.
Wrth sôn am yr angen am amserlen lem, dywedodd Janet:
“Rwy'n poeni fwyfwy am yr adroddiadau gan nifer o etholwyr sy'n dioddef o ddirywiad y maciwla gwlyb ac sydd fel arfer yn cael pigiad bob mis, sy’n dweud eu bod yn gorfod aros am eu pigiadau. Yn ystod pandemig Covid-19, fe wnaeth rai o'r rhain ostwng i bob chwe wythnos.
“Fodd bynnag, mae rhai bellach yn gorfod aros hyd at dri mis i'w cael, gan beri risg gynyddol i'w golwg. Yn wir, roeddwn yn dechrau derbyn adroddiadau bod rhai ymgynghorwyr hyd yn oed yn cyfeirio cleifion ata i er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa anffodus hon y gellid bod wedi ei hosgoi.
“Dyma pam mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn anfon canllawiau ar frys i'n Byrddau Iechyd fel bod cleifion yn derbyn y pigiadau hollbwysig hyn ar amserlen gyson. Yn wir, os yw'r pigiadau hyn fod i gael eu rhoi bob mis, yna dylai'r cleifion hynny eu derbyn bob mis.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Yn ôl y Macular Society, mae'r clefyd yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae'r symptomau'n cynnwys bylchau neu smotiau tywyll sy'n ymddangos yn eich golwg, lliwiau'n pylu, neu eiriau'n diflannu wrth ddarllen. Gall llinellau syth fel fframiau drysau a lampau hefyd ymddangos yn niwlog neu'n gam.
- Mae trawsgrifiad o gyfraniad Janet ar gael trwy glicio yma.
Llun: Janet Finch-Saunders AS