Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

AS Aberconwy yn sicrhau amod am gyllid i godi ymwybyddiaeth o ddiffibrilwyr yng Nghymru

  • Tweet
Wednesday, 15 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn ymyriad gan Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - yn y Senedd heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn sicrhau y bydd cyllid ar gyfer diffibrilwyr yn amodol ar gofrestru ar The Circuit. Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn lansio The Circuit ar y cyd â Chymdeithas y Prif Weithredwyr Ambiwlans, Ambiwlans Sant Ioan a Resuscitation Council UK.

Galwodd ei haraith hefyd am gyflwyno arwyddion ffyrdd AED amlwg a phwysleisiodd ei diolch i’w chyn gydweithiwr, Suzy Davies, a ymgyrchodd i wneud dysgu sgiliau achub bywyd yn ofynnol yn y cwricwlwm ysgol newydd.

Yn rhoi sylwadau ar ei hymyriad, dywedodd Janet:

“Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Prydain wedi amcangyfrif y gallai fod cannoedd neu hyd yn oed miloedd o ddiffibrilwyr mewn cymunedau ledled Cymru sydd byth yn cael eu defnyddio gan nad yw’r gwasanaethau brys yn gwybod lle maen nhw. Dyna pam roeddwn i am weld cofrestru gyda’r  fenter The Circuit yn dod yn amod am gyllid.

“Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru am fabwysiadu’r awgrym hwn. Gyda 2,800 o achosion o ataliad y galon mewn ysbytai yng Nghymru bob blwyddyn, gwyddom y gall CPR ar unwaith a diffibrilio fwy na dyblu’r siawns i oroesi. Mae gwybod lle mae’r peiriannau hyn yn hollbwysig i achub bywyd.

“Mae llawer o bobl yn teithio ar hyd a lled Cymru bob wythnos. Ar fy nheithiau i lawr i’r Senedd o’m hetholaeth yn Aberconwy, dim ond un AED rydw i wedi sylwi arno – ger yr A5 ym Mhadog, Ysbyty Ifan. Dyma dystiolaeth glir o anfantais ddaearyddol.

“Dylai cymunedau sydd â chyfarpar achub bywyd fod ag arwyddion amlwg yn hysbysu’r cyhoedd o’u presenoldeb. Dylent fod mor bwysig ag arwyddion twristiaeth brown, felly mae’n hollbwysig bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar draws yr adrannau i sicrhau arwyddion ffyrdd ar gyfer AED.

“Dylem hefyd gondemnio, yn ddiamwys, pwy bynnag a oedd yn gyfrifol am ymosod ar AED yn Nhraeth Pen Morfa, Llandudno. Mae gwallgofrwydd llwyr y fandaliaeth yn dangos bod angen codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd AED a CPR.”

DIWEDD

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree