Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Ymyriad yn sbarduno ymchwiliad i lygredd yn Neganwy

  • Tweet
Friday, 10 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn gynharach eleni, riportiodd Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy - ollyngiad carthffosiaeth a allai fod y ddifrifol o seilwaith Traeth Deganwy. Yn dilyn ymchwiliad gan swyddogion Dŵr Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a sbardunwyd gan yr ymyrraeth hon, mae achosion o gamgysylltiadau tebygol wedi’u canfod yn nalgylch ehangach Deganwy.

Camgysylltiad yw lle mae dŵr gwastraff yn cael ei gysylltu ar gam â draeniau dŵr glaw glân gan fynd yn syth i’r cwrs dŵr neu’r môr, gan achosi llygredd a drewdod. Mae llythyr yn cael ei ddosbarthu bellach i bob aelwyd yn y dalgylch, yn amlinellu y bydd angen ymchwiliad â ffocws pellach i fynd i wraidd y broblem.

Mae Janet yn annog preswylwyr i ymgysylltu â swyddogion ar y prosiect hwn, yn enwedig os ydynt wedi cael estyniad yn ddiweddar neu waith adeiladu arall a allai fod wedi newid draeniad gwreiddiol eu heiddo.

Yn rhoi sylwadau ar y datblygiad, dywedodd Janet:

“Mae nifer o breswylwyr lleol wedi cysylltu â’m swyddfa ynglŷn â drewdod afiach a oedd yn flanced dros rannau o Ddeganwy gydol yr haf. Ar ôl ymchwilio i’r mater mewn cydweithrediad â swyddogion Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’n ymddangos bellach bod digwyddiad o lygredd wedi dod i’r fei yn anffodus.

“Fel rwyf wedi nodi’n glir wrth y Senedd sawl gwaith, mae un digwyddiad o lygru afon yn un yn ormod oherwydd gallant fod yn niweidiol dros ben i’n hamgylchedd bioamrywiol lleol. Gan gadw hyn mewn cof, rwy’n falch fod fy sylwadau wedi helpu i ysgogi ymchwiliad ffurfiol a llythyrau at breswylwyr.

“A ninnau’n gwybod bod plant yn chwarae yno, a bod y drewdod annymunol yn effeithio’n negyddol ar les preswylwyr, rwy’n erfyn ar fy holl etholwyr sy’n byw yn yr ardal, yn enwedig y rhai sydd wedi cael gwaith plymio wedi ei wneud yn ddiweddar i’w heiddo, i ymgysylltu â’r gwaith dadansoddol hwn er mwyn i ni allu mynd i’r afael â’r pryder hwn ar unwaith. 

“Os yw preswylwyr yn sylwi ar achosion pellach o lygru, byddwn yn eu hannog i ddefnyddio llinell gymorth frys CNC a’u bod yn darparu cyfeirnod i brif swyddogion neu gyfarwyddiadau manwl. Mae’n rhaid i’n hymateb i fygythiad llygredd gael ei arwain gan dystiolaeth felly mae’n ddyletswydd arnom i gyd i fod yn warcheidwaid brwd o’r tir.”

Rhif llygredd Cyfoeth Naturiol Cymru yw 0300 065 3000. Mae’r llinell gymorth frys hon ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gyda swyddogion wedi’u hyfforddi wrth law i asesu’r adroddiad llygredd a mynychu os oes angen.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Gall preswylwyr gael rhagor o wybodaeth am y mater hwn yn www.connectright.org.uk neu drwy gysylltu â Dŵr Cymru ar 0800 0853968 i gael rhagor o gyngor ac arweiniad.

 Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree