Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Braf iawn cael croesawu boreau coffi cymunedol yn ôl

  • Tweet
Thursday, 9 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw, bu Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - yn ymweld â Digwyddiad Coffi Cymunedol yng Nglan Conwy, i glywed am bryderon etholwyr ac ateb cwestiynau gan breswylwyr. Mae’r Digwyddiad Coffi Cymunedol yn achlysur cymunedol a chyfeillgar, gan gynnig amgylchedd diogel i breswylwyr wau, sgwrsio a dal i fyny gyda ffrindiau.

Wrth groesawu’r digwyddiadau fel hyn yn ôl, dywedodd Janet:

“Gydol toriad y Senedd dros yr haf, rydw i wedi cael y pleser o deithio’r etholaeth i glywed gan fusnesau a phreswylwyr er mwyn cael gwell syniad o sut mae’r etholaeth yn taro’n ôl ar ôl y pandemig. Roeddwn i ar ben fy nigon o gael fy ngwahodd i ymuno â’r gwragedd yn Nigwyddiad Coffi Cymunedol Glan Conwy.

“Diddorol iawn hefyd oedd gweld y paratoadau sy’n cael eu cynnal nawr i adeiladu ffrwd o babïau wedi’u gwau a’u crosio a fydd yn addurno Eglwys San Ffraid er coffa. Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun cymunedol hwn, a fydd rwy’n gwybod yn cynnig ennyd lonydd i rywun aros a chofio’r rhai sydd wedi gwasanaethu.

“Gydag arogl coffi yn yr awyr, roedd hi’n gyffrous iawn gweld y criwiau cymdeithasol a chyfeillgar hyn yn ailgwrdd, gyda’r cyfarfodydd wedi’u trefnu gyda diogelwch Covid mewn cof. Gwn eu bod yn cynnig sicrwydd braf ac amgylchedd diogel i fwynhau hobïau i gymaint o’m hetholwyr.

“A ninnau eisoes yn y Chweched Senedd, rwyf wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i egluro sut y cefnogir mynediad at grwpiau cymorth cymdeithasol, er mwyn i ni gael gweld y cyfarfodydd wyneb yn wyneb hyn yn ailafael ynddi. Mae gormod o breswylwyr hŷn yn cael eu hynysu oherwydd y newid a fu i gynnal digwyddiadau grwpiau yn ddigidol, felly mae’n hollbwysig bod y grwpiau hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i ddychwelyd a ffynnu.”

DIWEDD 

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS yn y Digwyddiad Coffi Cymunedol a’r paratoadau ar gyfer y casgliad o babïau wedi’u gwau.

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree