Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Canmol “ymdrechion lleol cydweithredol” yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fynd i’r afael â’r argyfyngau newid hinsawdd a natur

  • Tweet
Wednesday, 8 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS
Janet Finch-Saunders MS
JFS Selfie

Mewn ymweliad â Gerddi enwog Bodnant ger Tal-y-Cafn yng Nghonwy, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi canmol gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’u hymdrechion lleol cydweithredol i adfer cynefinoedd bioamrywiol a phlannu mwy o goed.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud ei bod wedi ymrwymo i gyfrannu tuag at helpu i adfer a diogelu ein hamgylchedd naturiol a mynd i’r afael â newid hinsawdd, gydag uchelgeisiau i sicrhau Cymru gwbl ddi-garbon erbyn 2030 a cheisio adfer 4,600 hectar o gynefinoedd blaenoriaeth erbyn 2025. Mae oddeutu 80% o anghenion ynni'r Ymddiriedolaeth yng Nghymru bellach yn deillio o ffynonellau adnewyddadwy.

Meddai Rhys Thomas, Rheolwr Cyffredinol Gerddi Bodnant:

“Roedd hi’n braf iawn croesawu Janet i Erddi Bodnant er mwyn iddi wybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud dros natur, gan wneud ein rhan yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, cefnogi mynediad i ymwelwyr a gwarchod un o erddi pwysicaf Ewrop.”

Gan roi sylwadau ar yr ymweliad, meddai Janet:

“Mae Bodnant yn gartref i bum Casgliad Cenedlaethol ac mae yno nifer o goed arbennig iawn felly roedd yn lleoliad delfrydol i drafod y rôl y gall yr Ymddiriedolaeth ei chwarae wrth fynd i’r afael â risgiau Newid Hinsawdd, fel llifogydd, trwy weithio mewn partneriaeth â ffermwyr sy’n denantiaid, cymunedau lleol a rhanddeiliaid allweddol i adfer cynefinoedd bioamrywiol a chynyddu gorchudd coed yn strategol.

“Mae’r Ymddiriedolaeth yn bartner allweddol yn y gwaith hwn yn lleol, gan gydweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiect Conwy Uchaf sy’n ceisio cynorthwyo i storio llifddwr yn yr ucheldir gan arafu llif y dŵr drwy adfer rhostiroedd. Mae’r gwaith cywiro hanfodol hwn yn cynnwys llenwi ffosydd ac adfer afonydd.

“Rwy’n falch i weld yr Ymddiriedolaeth yn arwain yn feiddgar yr ymdrech i fynd i’r afael ag allyriadau diangen, gyda’u paneli ffotofoltaidd 175 ar y llechwedd yn cynhyrchu digon o drydan i bweru caffi’r Pafiliwn, dau bwynt gwefru ar gyfer cerbydau trydan ac offer pŵer batri’r garddwyr.  

“Er yn gam bach, mae newid i offer sy’n cael eu pweru gan fatri, sy’n ysgafnach ac yn lanach i’r garddwyr eu defnyddio, yn gam bach a all gael effaith fuddiol a phwysig ar yr amgylchedd. Rwy’n gobeithio gweld y newid hwn yn digwydd mewn mannau eraill hefyd, o ystyried llwyddiant Bodnant.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yw’r tirfeddiannwr mwyaf yng Nghymru sy’n gofalu am 46,000 hectar o dir, 157 milltir o forlin a 18 o gestyll, tai, gerddi a safleoedd diwylliannol gorau’r genedl.
  • Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyflogi tîm o 41 aelod o staff yng Ngerddi Bodnant, gyda chefnogaeth tîm o wirfoddolwyr sy’n cyflawni rolau amrywiol ledled y safle. Mae dros 250,000 o ymwelwyr yn dod i’r gerddi bob blwyddyn, ac yn cael gofal Tîm Croeso ymroddedig. Mae 25 garddwr yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y gerddi’n cael eu cynnal i’r safonau uchaf posibl.

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree