Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Ysgrifennu llythyrau i sbarduno arweinyddiaeth ddinasgar a rhoi diwedd ar werthu barbeciws untro

  • Tweet
Friday, 3 September, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mewn llythyrau at brif swyddfeydd archfarchnadoedd a siopau, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid – wedi erfyn ar fusnesau i arddel safbwynt arweinyddiaeth ddinasgar, ecogyfeillgar ac ymrwymo i roi’r gorau i werthu barbeciws untro yn ystod tymor yr haf y flwyddyn nesaf.

Mae Mrs Finch-Saunders AS wedi ysgrifennu at swyddfeydd ASDA, Tesco, Sainsbury’s, Morrison’s, ALDI, Lidl, SPAR, B&M, Home Bargains, Wilko, Poundland a Poundstretcher.

Yn gynt yn yr haf, galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i dri digwyddiad gwahanol wedi eu hachosi gan farbeciws untro ar un diwrnod yn unig. Mewn datganiad, dywedwyd yn glir bod y tri achos wedi digwydd ar ôl i bobl fethu â chael gwared â’u barbeciws yn ddiogel.

Wrth roi sylwadau ar ei llythyrau, dywedodd Janet:

“Mae barbeciws untro yn niwsans modern go iawn sy’n achosi llawer gormod o beryglon i’n hamgylchedd ac i iechyd y cyhoedd. Gan fod y barbeciws ffoil hyn yn gallu cael eu cludo, maent yn aml yn cael eu defnyddio mewn lleoliadau anaddas fel o dan goed neu ger gwair hir, llwyni neu ffensys a all fynd ar dân yn gyflym.

“Mae gwaelod y barbeciw yn gallu mynd yn boeth iawn, a gyda thywydd sych am gyfnodau maith dros yr haf, mae potensial i ddifrodi’r tir. Fel y gwelwyd yn gynt yn yr haf eleni, gallant hefyd achos tanau diangen mewn biniau os ydynt yn cael eu taflu cyn oeri i dymheredd addas. 

“Mae angen i fanwerthwyr ystyried y ffaith nad yw’r cynhyrchion hyn yn gallu cael eu hailgylchu, yn enwedig mewn oes lle dylen ni roi blaenoriaeth i’r economi gylchol. Rydw i wedi’u gweld yn cael eu gadael ar ôl dan dywod ble gallent losgi traed. Ni fyddai hyn yn digwydd pe bai cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at farbeciws cludadwy y mae modd eu defnyddio fwy nag unwaith.

“Rwyf wedi ysgrifennu at nifer o fanwerthwyr gwahanol i ofyn iddynt gymryd safbwynt arweinyddiaeth ddinasgar, ecogyfeillgar drwy ymrwymo i roi’r gorau i werthu barbeciws untro yn ystod tymor yr haf y flwyddyn nesaf. Mae’n rhaid gweithredu ar unwaith cyn i benderfyniadau gael eu gwneud am stociau.”

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:  

  • Mae enghraifft o lythyr a anfonwyd at y sefydliadau yn amgaeedig.

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree