Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi annog Llywodraeth Cymru i egluro pa gamau maen nhw wedi’u cymryd i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dan arweiniad barnwr i’r ffordd y deliodd Llywodraeth Cymru â phandemig y coronafeirws. Daw’r ymyriad yn dilyn llythyr agored, a gyhoeddwyd yn gynt yn yr wythnos, gan Grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Prif Weinidog, dywedodd Janet:
“A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pa sgyrsiau y mae ei Gabinet wedi’u cael i gomisiynu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dan arweiniad i’r ffordd y deliodd Llywodraeth Cymru â phandemig y coronafeirws?”
Wrth sôn am yr angen am atebolrwydd, dywedodd Janet:
“Gyda Phrif Weinidog yr Alban yn cyhoeddi y bydd ymchwiliad yno, yn dilyn yr ymrwymiadau a wnaed gan y Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru yw’r unig lywodraeth ym Mhrydain na fydd yn craffu ar ei hun fel hyn. Mae chwarae gwleidyddiaeth drwy guddio o’r atebolrwydd a ddaw yn sgil llywodraethu yn achos difrifol o osgoi dyletswydd.
“Mae’r Prif Weinidog a’i gydweithwyr yn y Cabinet wedi gwneud penderfyniadau sydd wedi cael effaith uniongyrchol ar fywydau pobl yng Nghymru gydol y pandemig hwn. Cael ymchwiliad priodol ac annibynnol i’r camau hynny yw’r peth hollol iawn i’w wneud. Gyda’r galwadau gan deuluoedd mewn profedigaeth yng Nghymru yn mynd yn uwch ac yn uwch, rhaid galw am atebion ac esboniad o’r penderfyniadau a wnaed.
“Rydym ni angen ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i edrych ar beth ddigwyddodd yn fanwl a sicrhau bod penderfynwyr yn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol, hyd yn oed os mai dim ond i sicrhau hyder y cyhoedd yn ein system a’n gwasanaethau. Ni ddylai’r Prif Weinidog wastraffu mwy o amser cyn cyhoeddi ymchwiliad o’r fath.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS