Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

“Ni Ddylai Ehangu Coetir Fygwth Bywyd Gwyllt a Ffermydd”

  • Tweet
Monday, 23 August, 2021
  • Local News

Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i weithredu i sicrhau nad yw ehangu coetiroedd yn bygwth bywyd gwyllt a ffermydd.

Mae Llywodraeth Cymru am blannu 86 miliwn yn fwy o goed erbyn diwedd y degawd. Hyd yn hyn, dim ond oddeutu 1,690 hectar o goedwigoedd newydd sydd wedi’u plannu rhwng 2014 a 2020. Yn wir, yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020, tra plannwyd 200 hectar o goetir newydd yng Ngogledd Iwerddon, 2,330 yn Lloegr, a 10,860 yn yr Alban, dim ond 80 lwyddodd Cymru i’w plannu.

Er mwyn cyrraedd sero net, mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050 (sy’n cyfateb i blannu 5,000 hectar y flwyddyn). Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau bod tua dwsin o ffermydd wedi’u prynu’n ddiweddar gan gwmnïau a buddsoddwyr o’r tu allan i Gymru.

Wrth sôn am y risg sy’n wynebu Cymru yn sgil dull plannu coed cyffredinol, dywedodd Janet:

“Mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau cyrraedd targedau plannu coed, ond drwy gydweithredu â Cyfoeth Naturiol Cymru, rhaid sicrhau nad ydym yn gweld dull cyffredinol o blannu coed.

“Gallai caniatáu plannu ar raddfa fawr ar dir sy’n gyfoethog o ran amrywiaeth gael effaith andwyol ar gymunedau a’n planed.

“Yn hytrach na gweld ffermwyr yn poeni y gallent gael eu gwthio oddi ar eu tir drwy’r ymgyrch plannu coed, mae angen i ni weld Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau i atal neu o leiaf ofyn am newidiadau i blanhigfeydd sy’n cwmpasu ffermydd cyfan.

“Ni ddylai ehangu coetir fygwth bywyd gwyllt a ffermydd. Rhaid rhoi’r un pwysigrwydd i gynefinoedd amaethyddol eraill sy’n gyfoethog o ran carbon, fel gwrychoedd, rhostir, mawndir, glaswelltir sy’n llawn rhywogaethau, gweirgloddiau, a gwndwn amlrywogaeth”.

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree