Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llywodraeth Cymru yn Gwrthod Dileu Gofynion Gorchuddio Wyneb ar gyfer Addoldai

  • Tweet
Wednesday, 25 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod llacio gofynion gorchuddio wyneb ar gyfer addoldai, ar ôl iddi dderbyn llythyr gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn datgan:

‘Nid ydym eto wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn gael gwared ar yr holl amddiffyniadau ac – yn unol â’r cyngor gwyddonol ac iechyd cyhoeddus diweddaraf – byddwn yn cadw rhai mesurau ar waith ar lefel rhybudd sero. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do fel Addoldai.’

Wrth drafod ymateb y Gweinidog i’w llythyr, dywedodd Janet:

“Mae digon o le yn y rhan fwyaf o addoldai i ganiatáu digon o gadw pellter cymdeithasol ac rwy’n gwybod bod lleoliadau wedi cymryd camau i wella awyru.

“Yn hytrach na gadael i’r Wladwriaeth bennu’r hyn y dylai ein haddoldai ei wneud, mae’n bryd i Lywodraeth Cymru adael i ganolfannau unigol benderfynu ar y risg i’w cynulleidfa a’r mesurau lliniaru angenrheidiol a ddylai fod ar waith.

“Fel llawer o drigolion, rwy’n cytuno ei bod yn anodd anwybyddu’r ffaith ei bod yn ymddangos yn afresymol nad oes dewis ar gyfer addoldai tra bo dewis ar gael yn y sector lletygarwch.

“Yn wir, yn hytrach nag ofn y Gweinidog o greu gwrthdaro rhwng daliadau crefyddol dwfn a diogelwch personol, yr hyn mae hi’n gyfrifol amdano yw gwrthdaro sydd eisoes yn bodoli rhwng y gwahanol safonau ar gyfer addoldai a’r sector lletygarwch”.

DIWEDD

Llun: Janet Finch-Saunders AS

Dogfennau:

  • Llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

You may also be interested in

janet

Senior Consultant Concerns Over Delays to the Pre-Operative Assessment Raised in Senedd Cymru

Thursday, 17 September, 2026
Janet Finch-Saunders, the Member of the Welsh Parliament for Bangor Conwy Môn, has written to the Cabinet Minister for Health and Care and the Chief Executive of Betsi Cadwaladr University Health Board, calling for urgent action to address reported cancellations of operations due to delays in the Pr

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Bangor Conwy Môn

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree