Wrth i ddisgyblion ar draws yr etholaeth dderbyn eu canlyniadau TGAU hirddisgwyliedig heddiw, mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi estyn ‘llongyfarchiadau calonnog’ i fyfyrwyr, eu teuluoedd a staff addysgu’r rhanbarth. Daw’r graddau yn yr ail flwyddyn o darfu ar arholiadau gan y pandemig.
Wrth sôn am ei balchder, dywedodd Janet:
“Estynnaf fy llongyfarchiadau calonnog i bob myfyriwr sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, ar ôl blwyddyn heriol arall lle mae’r pandemig wedi amharu ar arholiadau a dulliau addysgu arferol. Mae eich gwaith caled a’ch ymrwymiad i’ch pynciau yn sicr wedi talu ar ei ganfed.
“Rwy’n gwybod y bydd pob perthynas ac athro bodlon ar draws Aberconwy yn rhannu fy marn y dylai pob myfyriwr fod yn hynod falch o’u cyflawniadau rhyfeddol. Dylem ddiolch hefyd i’r teuluoedd sydd wedi darparu cymorth mor hanfodol dros y misoedd diwethaf.
“Mae ymroddiad ein hysgolion a’n staff addysgu drwy gydol y cyfnod hwn wedi bod yn amlwg iawn, gan addasu eu dulliau addysgu’n gyflym er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw fyfyriwr yn cael ei adael ar ôl. Bydd eich ymroddiad i’ch galwedigaeth yn gyfrifol am roi cymaint o gyfleoedd i’n myfyrwyr yn y dyfodol.”
DIWEDD
Llun: gan Kimberly Farmer ar Unsplash