Mewn digwyddiad dathlu a gynhaliwyd yn y winllan y prynhawn yma, cyflwynodd yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – dystysgrif Medal Efydd i Colin a Charlotte Bennett o Winllan Conwy, ynghyd â’u merched, yn dilyn y newyddion bod eu gwin Cymreig Solaris 2019 wedi cael sgôr anhygoel o 89 pwynt yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter 2021.
Mynychwyd y digwyddiad gan Uchel Siryf Clwyd, J. S. Thomas Ysw. hefyd, y ffermwr a’r wyneb amlwg ar deledu, Gareth Wyn Jones, Aelod Seneddol Aberconwy, Robin Millar AS, a chynrychiolwyr busnesau lleol eraill. Mae’r llwyddiant hwn yn dilyn medalau diweddar yn yr Her Win Ryngwladol i’w gwinoedd Pefriog a Solaris, yn ogystal ag ennill Dosbarth Bwyd a Diod Lleol Cymru yng ngwobrau mawreddog y Gynghrair Cefn Gwlad. Cafodd y winllan ei henwebu ar gyfer y wobr ddiweddaraf hon gan Janet, a dynnodd sylw at eu “cyfraniad economaidd enfawr i’r ardal leol.”
Wrth ddathlu eu llwyddiant, dywedodd Janet:
“Mae wedi bod yn wefr bod yn dyst i lwyddiant ysgubol Gwinllan Conwy dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig o wybod am waith caled ac ymroddiad Colin a Charlotte i ddatblygu eu brand ac ehangu eu cynnyrch. Mae pob buddugoliaeth sy’n dod i’w rhan yn adlewyrchu’r gwaith caled hwnnw.
“Ar ôl tyfu o hedyn o syniad i filoedd o winwydd ar ochr y bryn wrth ymyl eu cartref, mae’n wych eu gweld yn gwerthu nifer cynyddol o boteli o win o safon i fusnesau lleol erbyn hyn, gan gefnogi’r economi ranbarthol a chyflwyno stori gwin Cymru i’r byd.
“Roeddwn wrth fy modd pan dderbyniais y cais i gyflwyno’r Fedal Efydd i’r teulu yng Ngwobrau Gwin y Byd Decanter 2021, a dim ond trwch blewyn, un pwynt, oedd rhyngddynt â’r Fedal Arian. Mae cydnabyddiaeth ar raddfa fyd-eang i’w busnes teuluol yn tanlinellu rhinweddau unigryw’r gwinoedd maen nhw’n eu cynhyrchu.
“Yn yr un modd, mae eu llwyddiant yng Ngwobrau’r Gynghrair Cefn Gwlad yn gydnabyddiaeth wych sy’n tanlinellu eu cyfraniad economaidd aruthrol i’n hardal leol. Rwy’n annog trigolion i godi gwydraid o’u cynnyrch arobryn i gynnig llwncdestun i’w llwyddiant parhaus!”
DIWEDD
Llun #1: Janet gyda Colin a Charlotte Bennett yn y seremoni wobrwyo, gyda merched y cwpl ac Uchel Siryf Clwyd
Llun #2: Janet a Robin Millar AS yn ymweld â’r winllan