Yn dilyn ymweliad ag RSPB Conwy a dysgu am lwyddiant Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB eleni, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi manteisio ar y cyfle i ddiolch i’n gwarchodfa leol a’n trigolion am gymryd rhan. Yn ystod yr ymweliad â safle RSPB Conwy, cyfarfu Janet â Helen Jowett (Rheolwr Safle) a Julian Hughes (Pennaeth Rhywogaethau) hefyd i drafod materion polisi sy’n ymwneud ag adfer mawndiroedd, ynni morol adnewyddadwy a’r gylfinir.
Cynhaliwyd y digwyddiad gwylio adar blynyddol dros benwythnos yn gynharach eleni. Dyma arolwg adar mwyaf y byd ac mae wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 1979. Yn wir, digwyddiad 2021 oedd y mwyaf erioed, gyda dros filiwn o bobl yn cymryd rhan ac yn rhannu yn y cyffro. Yr adar oedd yn hedfan uchaf yn yr arolwg eleni oedd:
1. Aderyn y to
2. Titw Tomos las
3. Drudwen
4. Aderyn du
5. Ysguthan
6. Robin goch
7. Titw mawr
8. Nico
9. Pioden
10. Titw cynffon-hir
Wrth drafod canfyddiadau’r digwyddiad gwylio adar, dywedodd Janet:
“Diolch i RSPB Conwy a’r holl drigolion a helpodd i gyfrif mwy na 17 miliwn o adar. Roedd yn anhygoel ymweld â lleoliad mor wych, sy’n cynnig lle tawel i drigolion lleol ac ymwelwyr barhau i weld creaduriaid o’r fath y tu hwnt i’r digwyddiad blynyddol.
“Er bod adar y to wedi cadw’u crafangau ar y safle uchaf am y 18fed flwyddyn yn olynol, roedd rhai canfyddiadau pryderus, fel y gostyngiad parhaus yn niferoedd y llinos werdd a’r ji-binc. Yn anffodus, dros yr hanner can mlynedd diwethaf, mae 40 miliwn o adar wedi diflannu o’r awyr uwchben y DU.
“Yn gynharach yr haf hwn, datganodd Senedd Cymru argyfwng natur. Rwy’n bendant y dylem weithio’n awr i sicrhau bod cyhoeddi argyfwng yn arwain at gamau go iawn sy’n gwrthdroi’r dirywiad hirdymor mewn niferoedd adar.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Helen Jowett (Rheolwr Safle) a Julian Hughes (Pennaeth Rhywogaethau)