Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Llythyr yn tynnu sylw at anghydraddoldeb o ran safon gwasanaethau cymorth iechyd meddwl Cymru

  • Tweet
Monday, 16 August, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae’r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cydraddoldeb mewn safonau gwasanaeth wrth ddarparu cymorth iechyd meddwl, yn dilyn adroddiadau am drosiant uchel o staff yn y system.

Mae difrifoldeb y sefyllfa sy’n wynebu’r system yn amlwg o ganfyddiadau cyhoeddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru COVID-19 yng Nghymru. O fis Mawrth i fis Medi 2020, awgrymodd fod cofnod clinigol o iselder a/neu orbryder gan 1 o bob 50 o’r boblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, ac nad oedd gan bron i 1 o bob 5 ohonynt unrhyw hanes blaenorol o afiechyd meddwl. Yr adroddiad yw’r astudiaeth feintiol gyntaf sy’n archwilio’r canlyniadau iechyd meddwl ymhlith poblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yng Nghymru. 

Wrth gyfeirio at ei llythyr, dywedodd Janet: 

“Rwyf am weld pob unigolyn yn cael ei rymuso i gael gafael ar y gwasanaeth cymorth priodol ar eu cyfer, pryd a ble y mae ei angen arnynt. Dyna pam rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i fynegi’n gwbl glir bod yn rhaid sicrhau cydraddoldeb o ran safonau’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu i’r rhai sydd ag iechyd meddwl gwael ledled Cymru.

“Ar hyn o bryd, mae cleifion yn wynebu loteri cod post sy’n peri pryder ac sydd wedi hen ymwreiddio, gyda ffigurau’n dangos bod trigolion Caerdydd a’r gogledd yn disgwyl yn hirach o lawer am asesiadau na’r rhai sy’n byw yn ardaloedd byrddau iechyd eraill. Mae etholwyr wedi egluro y gall yr ansicrwydd ynghylch y cyfnodau aros estynedig hyn ddwysáu’r mater dan sylw yn aml. 

“Rwy’n ymwybodol  hefyd o achosion lle mae unigolion wedi cael eu hasesu ond wedi wynebu anawsterau eithriadol wedyn wrth gysylltu â Thîm Iechyd Meddwl Cymunedol. Mae rhai yn mynegi pryder oherwydd oedi yn sgil anghysondeb gyda lefelau staffio, gyda nifer frawychus o swyddogion hyfforddedig yn gadael eu swyddi. 

“Mae hyn yn amlwg yn anghynaliadwy, o ystyried bod y pandemig wedi tynnu sylw amlwg at ein lles meddyliol. Dyna pam mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun ar frys i sicrhau bod ein staff cymorth iechyd meddwl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi’n ddigonol yn eu gwaith, er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y byddant yn aros yn eu swyddi.” 

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

  • Dangosodd dadansoddiad a gynhaliwyd yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru fod cyfran y bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl difrifol wedi cynyddu o 11.7% yn ystod y cyfnod yn union cyn y pandemig i 28.1% erbyn mis Ebrill 2020.
  • Atodir copi o lythyr Janet at y Dirprwy Weinidog. 

Llun: Janet Finch-Saunders AS/MS

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree