Wrth barhau â’i gwaith i wella diogelwch cerddwyr ar hyd Ffordd y Frenhines yng Nghraig y Don, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi mynd ati heddiw i ysgrifennu at swyddogion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Heddlu Gogledd Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am arolwg diogelwch ffyrdd diweddar a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Mae hyn yn dilyn ymweliad safle a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr, wedi’i gydgysylltu gan Janet a lle’r oedd pawb yn cadw pellter cymdeithasol, i’r union fan sy’n broblem o ran goryrru, lle’r oedd Cynghorwyr, trigolion a swyddogion yr awdurdod lleol yn bresennol. Yn ôl Mrs Finch-Saunders, dylai unrhyw newidiadau arfaethedig i wella diogelwch ffyrdd "adlewyrchu’r defnydd cynyddol o gyfleusterau ardderchog y parc."
Gan gyfeirio ar ei llythyrau, dywed Janet:
“Ffordd y Frenhines yw un o’r prif lwybrau i mewn i’r promenâd byd-enwog ac i fusnesau lleol gwych. O gofio pwysigrwydd strategol y briffordd, sy’n gwneud ei ffordd drwy galon ein cymuned, yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau diweddar ar y ffordd, dyw hi ddim yn syndod i mi fod trigolion yn bryderus am ddiogelwch cerddwyr.
“Roedd ein hymweliad safle ym mis Rhagfyr, lle’r oedd pawb yn cadw pellter cymdeithasol, yn gam cyntaf pwysig a chadarnhaol tuag at wireddu’r newidiadau sy’n angenrheidiol yn y tymor hirach. Gyda’r cyfnod hwnnw bellach wedi dod i ben, pan oedd swyddogion yn methu cynnal arolygon diogelwch ffyrdd ac amodau iechyd y cyhoedd yn eithriadol o heriol, rydw i’n awyddus i wthio’r ymgyrch hon yn ei blaen hyd nes y cawn ni ateb a diweddglo cadarnhaol.
“Rydw i wedi bod o’r farn ers tro byd bod yn rhaid i unrhyw fuddsoddiad arfaethedig yn Ffordd y Frenhines adlewyrchu’r cynnydd yn y defnydd o gyfleusterau gwych y parc, y mae Cyfeillion Parc y Frenhines wedi gofalu amdano mor anhunanol. Gan fod y broblem barhaus gyda’r traffig yn risg go iawn i ddiogelwch plant ifanc lleol, rydw i’n gwbl glir erbyn hyn y dylid rhoi blaenoriaeth i’r pryder penodol hwn.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gweler copi o’r llythyrau a anfonwyd wedi’u hatodi.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS, y Cyngh Greg Robbins (Aelod Cabinet), y Cyngh Antony Bertola, y Cyngh Francis Davies, a’r Cyngh M. A. Pearce. Yn bresennol hefyd roedd aelodau o Gyfeillion Parc y Frenhines.