Mae Janet Finch-Saunders AS, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi mynegi ei siom ynghylch penderfyniad Cyngor Sir Swydd Warwick i gau Canolfan Dysgu Awyr Agored Plas Marl yn barhaol, y lleoliad addysg preswyl y tu allan i Gyffordd Llandudno.
Bydd y ganolfan yn cau’n barhaol ddydd Gwener, 22 Hydref 2021. Yn ôl dogfennau a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol yn Lloegr, mae pob archeb yn y cyfleuster ar gyfer y dyfodol wedi’u canslo hefyd oherwydd “prinder staff yn y lleoliad.”
Gan wneud sylw ar y cyhoeddiad, meddai Janet:
“Ar ôl ymweld â Phlas Marl ar sawl achlysur, yn ogystal â theithio i ganolfannau gweithgareddau awyr agored preswyl eraill ar hyd a lled y rhanbarth, mae’r lleoliadau hyn wedi gwneud argraff gadarnhaol iawn arna i a’r bobl ifanc sy’n ymweld â’n hardal, gan eu bod yn cynnig y pecyn perffaith drwy gyfuno lleoliad unigryw a thîm ymroddedig o staff sydd â chymwysterau rhagorol.
“Allwn ni ddim tanbrisio’r cyfraniad y mae addysg awyr agored preswyl yn ei wneud i fywydau a datblygiad ein plant. Yn yr oes sydd ohoni, lle mae llawer o bobl ifanc yn treulio cyfran helaeth o’u hamser dan do ac ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn darparu cyfleoedd iddyn nhw gael profi eu hunain yn yr awyr agored.
“Mae lleoliadau fel Plas Marl yn galluogi ein pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gwerthfawr mewn gwaith tîm ac arweinyddiaeth, ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cael eu hasesu yn ôl risg ond sydd ddim yn gwbl rydd o risgiau sy’n meithrin a chryfhau eu cymeriad. Mae’r penderfyniad i gau’r canolfannau eithriadol werthfawr hyn yn gam gwag i unrhyw awdurdod yn Lloegr.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS