Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu lansiad gwasanaeth newydd T10 TrawsCymru, sy'n darparu dull cynaliadwy o deithio o fewn Parc Cenedlaethol Eryri a thu hwnt. Mae'r llwybr yn cysylltu Bangor a Chorwen, gan gysylltu â rhwydwaith Sherpa'r Wyddfa ym Metws-y-coed a Chapel Curig.
Mae gwasanaeth T10 TrawsCymru yn rhedeg saith diwrnod yr wythnos, a hynny mewn coetsis modern a chyfforddus dros ben. Yn ei rôl fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, mae Janet wedi bod yn galw am "ail-lunio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru" i ddiwallu anghenion trafnidiaeth cymunedau gwledig mewn ffordd sy'n cydnabod targedau allyriadau carbon y genedl.
Wrth sôn am y lansiad, dywedodd Janet:
“Mae lansio llwybr T10 TrawsCymru yn gwneud llawer i ymestyn cyrhaeddiad daearyddol trafnidiaeth gyhoeddus i'n cymunedau gwledig a'n canolfannau cyflogaeth lleol, gan sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu teithio ar draws rhanbarth y Parc Cenedlaethol mewn modd cynaliadwy.
“Mae'r lansiad hwn yn gosod y seiliau ar gyfer camau cadarnach i wella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth. Yn wir, rwyf wedi ymgyrchu ers tro byd dros wasanaeth rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Manceinion i Flaenau Ffestiniog, wedi'i ategu gan amserlen integredig ar gyfer gwasanaethau trenau a bysiau fel bod ymwelwyr yn gallu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd a hwylus i deithio o'r dinasoedd i gopa mynydd uchaf Cymru.
“Er ei bod hi'n wych gweld y llu o ymwelwyr yn mwynhau ac yn parchu ein mannau agored gwyrdd, trigolion lleol yw'r cyntaf i dynnu sylw at y ffaith bod cerbydau preifat yn bla yn eu milltir sgwâr. Drwy gysylltu ein cynnig trafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth mae'r llwybr hwn yn helpu i'w wneud, gallwn ddechrau dileu'r effaith hon a parhau i fod yn unedig yn ein cenhadaeth i gyrraedd ein targedau sero-net.”
DIWEDD
Llun: Atgynhyrchwyd drwy garedigrwydd Cymdeithas Eryri.