Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Janet yn ategu cynghorion ARNOFIWCH I FYW yng nghanol prysurdeb gweithgareddau dŵr yr haf

  • Tweet
Monday, 26 July, 2021
  • Local News

Gyda'r tywydd cynnes yn parhau, a chynnydd yn nifer y preswylwyr sy'n gwneud gweithgareddau dŵr, mae'r RNLI yn atgoffa pobl i arnofio i fyw os byddwch yn mynd i drafferthion ac i ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng. Adleisiwyd hyn Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy. 

Mae 2.5 miliwn o bobl wedi marw trwy foddi ledled y byd yn ystod y degawd diwethaf ac roedd modd osgoi llawer o'r marwolaethau hynny. Dyma’r tro cyntaf i'r RNLI nodi Diwrnod Rhyngwladol Atal Boddi – menter sy'n cael ei defnyddio i gynyddu gwybodaeth am gyngor ar ddiogelwch arfordirol. Mae’r  Diwrnod hwn yn dilyn penderfyniad y Cenhedloedd Unedig ar atal boddi a fabwysiadwyd yn ddiweddar, gan gydnabod y broblem am y tro hanes yn ei hanes 75 mlwydd oed.

Mae cyngor yr RNLI ar ddiogelwch traethau yn cynnwys: 

  • Cofiwch wirio rhagolygon y tywydd, amseroedd y llanw, a darllen arwyddion peryglon lleol.
  • Os byddwch yn syrthio i'r dŵr yn annisgwyl, ARNOFIWCH I FYW. Brwydrwch yn erbyn yr ysfa i sblashio o gwmpas, ac yn hytrach pwyswch yn ôl ar eich cefn, ymestyn eich breichiau a'ch coesau, ac arnofio.
  • Mewn argyfwng ffoniwch 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau. 

Gan bwysleisio'r angen i gadw'r cynghorion hyn mewn cof cyn ymweld ag ardaloedd arfordirol yr etholaeth, dywedodd Janet:  

“Wrth i'r tywydd cynnes barhau, a thymor yr haf gyrraedd ei anterth, mae'n braf gweld cymaint o bobl yn heidio i'n harfordiroedd a'n llynnoedd godidog. Fodd bynnag, gyda'r RNLI yn dweud bod tua 650 o bobl yn boddi ledled y byd bob dydd, sy'n cyfateb yn fras i un farwolaeth bob 2 funud, mae'n hollbwysig bod pawb yn ymwybodol o'r cyngor diogelwch perthnasol.

“Dyma pam rwy'n manteisio ar y cyfle i bwysleisio'r angen i wella ein gwybodaeth am y cyngor diogelwch. Gyda hyn mewn cof, os byddwch chi'n disgyn i'r dŵr yn annisgwyl, gwrandewch ar ein sefydliad achub bywydau ac ARNOFIWCH I FYW drwy orwedd ar eich cefn ac ymestyn eich breichiau a'ch coesau. 

“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i ymroddiad a gwaith caled ein criwiau bad achub lleol a thimau Gwylwyr y Glannau. Byddwn bob amser yn ddyledus i'w cymorth yn ein cyfnod o angen. Er hynny, mae modd  atal llawer o drafferthion dŵr ac felly rwy'n adleisio eu galwadau i ymwelwyr wirio rhagolygon y tywydd, amseroedd y llanw a darllen pob arwydd perygl i ddeall peryglon lleol.” 

DIWEDD 

Llun: gan conor rabbett ar Unsplash

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree