Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Y Swyddfa Gartref yn adeiladu 292 o fastiau yn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell a gwledig Prydain

  • Tweet
Thursday, 22 July, 2021
  • Local News

Fel rhan o'i hymgyrch hirhoedlog i wella signalau ffôn symudol yng nghefn gwlad Aberconwy, mae Janet Finch-Saunders AS wedi croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y Swyddfa Gartref yn Sir Conwy.

Ar ôl ysgrifennu at yr Aelod Seneddol Matt Warman, y Gweinidog dros Seilwaith Digidol, i wybod pryd y bydd mastiau a allai wasanaethu Ysbyty Ifan a'r cyffiniau ar waith, mae wedi cael ymateb cadarnhaol gan yr Aelod Seneddol Kit Malthouse, y Gweinidog Gwladol dros Droseddu a Phlismona, lle mae'n dweud:

  • mae'r Swyddfa Gartref yn adeiladu 292 o fastiau Gwasanaethau Ardal Estynedig (EAS) pellach yn ardaloedd mwyaf anghysbell a gwledig Prydain;
  • Yn gyffredinol, bydd signalau ffonau symudol masnachol 4G ar gael i gwsmeriaid EE cyn gynted ag y bydd y mastiau hyn ar waith ar gyfer y rhwydwaith gwasanaethau brys;
  • Bydd mastiau'r EAS hefyd ar gael i'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir (SRN): partneriaeth rhwng y Llywodraeth a diwydiant i gynyddu'r ddarpariaeth symudol i 95% o diriogaeth y DU erbyn diwedd y rhaglen;
  • Disgwylir i'r contract ar gyfer cysylltu pob un o'r 292 o fastiau EAS â'r rhwydwaith gael ei ddyfarnu yn yr Hydref. 

Mae pum safle mast EAS yn cael eu datblygu a ddylai fod o fudd i Aberconwy. Wrth sôn am fuddsoddiad Llywodraeth y DU i wella cysylltedd yn Aberconwy, dywedodd Janet:

 “Mae'r pandemig wedi pwysleisio effaith niweidiol cysylltedd gwael ar fusnesau a bywydau pobl.

 “Mae'n warthus bod rhannau o Aberconwy heb signal symudol a 4G yn 2021, felly rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU yn buddsoddi i fynd i'r afael â hyn.

 “Gyda'r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Gwasanaethau Ardal ar gyfer cymunedau gan gynnwys Penmachno, Ysbyty Ifan a Chapel Curig, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU yn ymateb i’m galwadau i wella darpariaeth symudol yn ein hardal”.

 DIWEDD 

Dogfennau:

  • Llythyr at yr Aelod Seneddol Matt Warman, y Gweinidog dros Seilwaith Digidol
  • Llythyr gan yr Aelod Seneddol Kit Malthouse, y Gweinidog Gwladol dros Droseddu a Phlismona

Tabl: Mastiau Gwasanaethau Ardal Estynedig ar gyfer Aberconwy

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree