Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Y diweddaraf am Bont Dolgarrog

  • Tweet
Wednesday, 14 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i ailagor Pont Dolgarrog, yn dilyn cyfarfod rhithwir gyda rhanddeiliaid gan gynnwys Dŵr Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a thirfeddianwyr lleol. Mae'r bont bibellau wedi'i chau i ddefnyddwyr lleol oherwydd pryderon diogelwch sylweddol. Roedd y rhain yn cynnwys cyflwr dirywiol y deciau pren a'r angen i osod mesurau ychwanegol i ddiogelu'r pibellau sy'n cyflenwi dŵr i dros 9,000 o gartrefi yn y Gogledd.

Wrth sôn am y cynnydd, dywedodd Janet: 

“Pan benderfynwyd cau Pont Dolgarrog yn barhaol, daeth ein cymuned at ei gilydd i bwysleisio a gwerthfawrogi pwysigrwydd y groesfan. Ers mis Mawrth, rwyf wedi bod yn falch o weithio gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, ac unwaith eto, wedi llwyddo i ddod â grwpiau allweddol at ei gilydd mewn cyfarfod rhithwir i ganfod ffordd gadarnhaol ymlaen.

“Yn hanfodol, yn ystod y cyfarfod hwn, cytunodd yr holl randdeiliaid fod angen cynyddu hygyrchedd a mynediad i'r orsaf. Byddai hyn yn golygu ystyried gosod goleuadau isel a mynediad i bobl anabl fel rhan o'r astudiaeth ddichonoldeb, gan helpu i gefnogi cynllun teithio llesol ac ymwybyddiaeth o'r amgylchedd lleol.

“Er nad yw'r bont bibellau yn hawl tramwy dynodedig, mae'r holl randdeiliaid wedi ymrwymo i gynnal gwaith a fydd yn arwain at wella ac ailagor y llwybr. Er nad yw'n bosib cadarnhau pryd yn union fydd y bont bibell yn ailagor, mae gwaith brys yn digwydd y tu ôl i'r llenni i newid pethau.

DIWEDD 

Nodiadau i Olygyddion: 

  • Roedd aelodau'r cyfarfod, dan gadeiryddiaeth Janet Finch-Saunders AS, yn cynnwys Robin Millar Aelod Seneddol, Ian Christie (Dŵr Cymru), Lee Robinson a Lowri Joyce (Trafnidiaeth Cymru), Glyn Evans (Cynghorydd Teithio Llesol), y Cynghorydd Greg Robbins (Aelod o'r Cabinet), Andrew Wilkinson (CBSC), y Cynghorydd Austin Roberts, y Cynghorydd Samantha Cotton, y Cynghorydd Dafydd Williams, y Cynghorydd Philip Evans, Stephen Phillips (Tirfeddiannwr), Andy Ainscough (Adventure Parc Snowdonia), Richard Brunstrom (Cymdeithas Eryri), John Mather (Cycling UK), Dafydd Trystan (Bwrdd Teithio Llesol Cymru), a Gwen Thomas (Sustrans).

Llun: Janet Finch-Saunders AS

 

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree