Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

‘Dyletswydd ddinesig' i riportio achosion o lygru

  • Tweet
Thursday, 15 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Mae Janet Finch-Saunders Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi galw ar drigolion i ddefnyddio rhif llygredd Cyfoeth Naturiol Cymru (0300 065 3000) ar unwaith os oes unrhyw bryderon am arwyddion o lygredd. Mae'r llinell gymorth ar gael 24 awr, saith diwrnod yr wythnos, gyda swyddogion medrus ar alwad i asesu'r adroddiad llygredd a mynychu os oes angen.  

Mae croeso i drigolion ffonio i adrodd am y canlynol:

  • difrod neu berygl i'r amgylchedd naturiol 
  • troseddau bywyd gwyllt sydd eisoes wedi'u cyflawni (dylid rhoi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau cyfredol drwy ffonio 101)
  • difrodi neu ddinistrio clwydi ystlumod 
  • llygru dŵr neu dir 
  • potsian neu bysgota anghyfreithlon 
  • pysgod mewn trallod neu wedi marw
  • amau bod coeden wedi'i thorri'n anghyfreithlon 
  • amau clefyd coed

Mae'r rhestr lawn ar gael trwy glicio yma. Mae modd defnyddio ffurflen gyswllt ddigidol i nodi unrhyw bryderon hefyd. Daw hyn ar ôl i'r AS riportio achos difrifol posib o garthion yn gollwng ar draeth Deganwy, aber Conwy. Mae swyddogion bellach yn ymchwilio i'r mater. 

Mewn ymateb, dywedodd Janet:

“Fel y pwysleisiodd adroddiad CCRA3, mae newid hinsawdd yn achosi perygl posib i'r seilwaith diwydiannol, gan gynyddu'r posibilrwydd o lifogydd ar dir halogedig a safleoedd tirlenwi hanesyddol, gan arwain o bosib at achosion o lygredd gwasgaredig. Felly, dylem i gyd gadw llygad barcud am unrhyw achos a allai ddifetha'r amgylchedd.

“Felly, rwy'n annog preswylwyr i ddefnyddio llinell gymorth digwyddiadau CNC, a sicrhau eich bod yn rhoi cyfeirnod grid neu gyfarwyddiadau mor fanwl â phosib i swyddogion. Rhaid i'n hymateb i'r bygythiad posib gael ei lywio gan dystiolaeth a data, felly mae'n ddyletswydd arnom fel dinasyddion cyfrifol a gwarcheidwaid y tir.

“Ar ôl riportio digwyddiad fy hun yn gynharach yr wythnos hon, mae'r ffaith fod swyddogion medrus yn ymchwilio i arferion niweidiol posib yn rhoi tawelwch meddwl i rywun. Yn y misoedd i ddod, byddaf yn adolygu sut y gallwn sicrhau bod y broses adrodd a riportio yn rhan fwy naturiol o'r oes fodern."

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree