Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Dweud eich dweud ar 20mya!

  • Tweet
Monday, 12 July, 2021
  • Senedd News
Janet Finch-Saunders MS

Ar ôl ymgyrchu ers blynyddoedd dros gyfyngiadau cyflymder 20mya mewn cymunedau, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu ymgynghoriad i i leihau terfynau cyflymder. Nod Llywodraeth Cymru yw lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn cymunedau preswyl ac ardaloedd adeiledig ledled y wlad.

Gallai lleihau'r terfyn cyflymder:

  • lleihau nifer a difrifoldeb damweiniau ffyrdd
  • cynnig mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein broydd
  • helpu i wella iechyd a lles i bawb
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel a helpu i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Wrth groesawu'r ymgynghoriad, dywedodd Janet:

“Mae gostwng terfynau cyflymder i ugain yn synnwyr cyffredin ac yn gam diogel. Mae rhywun saith gwaith yn llai tebygol o farw os caiff ei daro ar gyflymder o 20mya na 30mya – neu ddeg gwaith os yw'r unigolyn dros 60 oed.

“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud eisoes y byddai gostwng y terfyn yn arwain at fanteision iechyd sylweddol i’r cyhoedd.

“Mae dinasoedd rhyngwladol fel Perth, Dulyn, Milano, Wellington, a Washington, yn arwain y ffordd, a nawr mae'n bryd i ni ddal i fyny yng Nghymru.

“Rwy'n annog cymaint ohonoch â phosib i ymateb i'r ymgynghoriad ac anfon neges glir i Lywodraeth Cymru bod angen i'n priffyrdd fod yn llefydd mwy diogel i bob defnyddiwr”.

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS

Nodyn: Mae ymgynghoriad y Llywodraeth ar gael yma: Cynnig i ostwng y terfyn cyflymder ar strydoedd preswyl i 20mya

You may also be interested in

J

MS Visits Glan Conwy Bridge Project

Tuesday, 10 March, 2026
Janet Finch-Saunders Member of the Senedd for Aberconwy recently visited the site of the new active travel route linking from RSPB in Glan Conwy and Llandudno Junction to see first-hand the progress being made on the project. The project has been in the works for over 20 years and once complete

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS ABERCONWY

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS. All rights reserved.
Powered by Bluetree