Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Janet Finch-Saunders yn arwyddo Adduned Moroedd Cymru MCS

  • Tweet
Thursday, 8 July, 2021
  • Local News
Janet Finch-Saunders MS

Yn dilyn ei chydweithrediad â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, wedi'r prosiect glanhau traethau'r haf ar Draeth y Gogledd Llandudno yr wythnos diwethaf, mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – heddiw wedi llofnodi addewid MCS UK i ddiogelu moroedd Cymru.  

Fel rhywun sy'n teimlo'n angerddol ynghylch cadwraeth forol, Janet oedd hyrwyddwr rhywogaethau llamidyddion Cyswllt Amgylchedd Cymru gydol y Pumed Senedd. Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, mae Janet wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu moroedd sy'n cael eu rheoli'n dda fel ffordd o hybu'r 'economi las.’ 

Wrth siarad am yr addewid, dywedodd Janet: 

“O weithio i gyflwyno cod ymddygiad i ddiogelu morloi Bae Penrhyn i siarad am drafferthion ein llamidyddion, rydw i wedi bod yn lladmerydd brwd dros warchod ein cynefinoedd morol erioed.

“Dyma pam rwy'n falch o lofnodi adduned MCS UK, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisïau sy'n sicrhau bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli'n gynaliadwy a bod ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig yn cael eu gorfodi’n briodol. Mae gweithredu hefyd yn golygu troi'r llanw ar ein problem blastig, drwy gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru gyfan a gwahardd y defnydd o blastig untro anfeddygol.

“Gyda Dŵr Cymru yn ymdrin â thua 2,000 o achosion o flocio carthfosydd bob mis yng Nghymru -gyda ffyn cotwm a weips gyda'r achosion gwaethaf - yn ogystal â'r ffaith mai plastig a pholystyren oedd tua 56% o'r eitemau a gasglwyd gennym yn ystod digwyddiad y Great British Beach Clean y llynedd, mae maint y broblem yn haeddu camau deddfwriaethol ar unwaith. 

“Ond yn fwy na hynny, drwy flaenoriaethu moroedd sy'n cael eu rheoli'n dda, gallwn weithio i hybu'r economi las. Gan weithio ar y cyd â'n cymunedau arfordirol, a'r cychod pysgota sy'n creu swyddi lleol, gallwn geisio cydbwyso'n well ein datblygiad economaidd law yn llaw â rhoi lle i fyd natur a lleihau newid hinsawdd."

DIWEDD 

Llun: Janet Finch-Saunders AS ar Bier Llandudno ac yn helpu i lanhau'r traeth.

You may also be interested in

Backlogs for Dermatology, Endoscopy, and Hernia Treatments Must be Addressed

Tuesday, 27 January, 2026
Backlogs for dermatology, endoscopy, and hernia treatments must be addressed. (27/01/2026)

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2026 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree