Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • About/Am Janet
  • News/Newyddion
  • Contributions/Cyfraniadau
  • Campaigns/Ymgyrchoedd
  • Contact/Manylion Cyswllt
  • Vote from home / Pleidleisiwch o adra
  • Save Welsh Farming / Achub Amaeth Cymru
Site logo

Finch-Saunders yn croesawu bwriad i ddod â thywod yn ôl i Draeth y Gogledd erbyn mis Mawrth nesa

  • Tweet
Thursday, 8 July, 2021
  • Local News

Mae swyddogion y llywodraeth wedi cadarnhau wrth y North Wales Pioneer y bydd y gwaith o ddychwelyd tywod i Draeth y Gogledd yn cychwyn fis Mawrth nesaf. Fel rhan o'r cynllun, bydd cerrig yn cael eu symud a thywod a chrwynau pren yn cael eu hailgyflwyno er mwyn torri'r tonnau fel amddiffynfa rhag llifogydd. Ar ôl ymgyrchu ar y cyd â'r gymuned i sicrhau bod tywod yn dychwelyd i'r traeth hanesyddol hwn, mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud: 

“Yn anffodus, mae coron Brenhines Cyrchfannau Gwyliau Cymru wedi colli rhywfaint o'i sglein dros y saith mlynedd diwethaf, ers i gerrig chwarel gael eu dympio'n ddiseremoni ar ein glan môr hyfryd a hanesyddol. Dyna pam dw i wrth fy modd bod rhanddeiliaid wedi ymateb mor dda i'n hymgyrch gymunedol i weld y tywod yn dychwelyd yma. 

“Gwyddom fod sawl unigolyn wedi cael codwm a brifo wrth groesi'r clogfeini i gyrraedd y dŵr, a bod eraill wedi'u hatal rhag cyrraedd y môr oherwydd y rhwystr annaturiol. Felly mae'r bwriad i ddileu'r rhwystrau hyn, yn ogystal â'r newyddion am dywod yn dychwelyd, wedi cael croeso brwd iawn gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

“Mae cael amserlen benodol, sef mis Mawrth 2022, ar gyfer dychwelyd y tywod yn golygu y gallwn ddechrau rhoi cyhoeddusrwydd balch i'r ffaith bod harddwch a diogelwch yn dychwelyd i'r gyrchfan hollbwysig hon i weddill Cymru. Bydd y cam hwn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar dwristiaeth, heb os nac oni bai.

“Wrth gwrs, rwy'n barod i gynorthwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a'u swyddogion drwy broses arfarnu Llywodraeth Cymru er mwyn cadw at ddyddiad cyflawni'r gwaith."

DIWEDD 

You may also be interested in

J

Police Leaders Call for Non-Hate Crime Laws to be Scrapped

Tuesday, 23 December, 2025
Police leaders have called for non-hate crime laws to be scrapped and replaced with a more common-sense approach. Non-hate crime incidents are defined as behaviour motivated by hostility or prejudice but which does not constitute a criminal offence.

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • European News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Speeches in Parliament
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders MS/AS
  • Polisi Preifatrwydd a Diogelu Data / Data Protection and Privacy Policy
Promoted by Janet Finch-Saunders of 29 Madoc Street, Llandudno, Conwy, LL30 2TL | Hyrwyddwyd gan Janet Finch-Saunders, 29 Stryd Madog, Llandudno, Conwy, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus

Copyright 2025 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree